Tân ar safle ailgylchu yn Abertawe'n parhau i fudlosgi

  • 30 Mai 2017
tan Abertawe

Mae tân mewn uned ailgylchu yn Abertawe'n dal i fudlosgi medd y gwasanaeth tân.

Fe ddechreuodd y tân ar ystâd ddiwydiannol Felin Fach, Fforest Fach tua 06:00 fore dydd Llun.

Roedd tua 4,000 o deiars, silindrau, gwastraff a hen gerbydau'n cael eu storio ar y safle.

Bu'n rhaid canslo rhai gwasanaethau trên cyfagos o ganlyniad i'r fflamau a'r mwg.

Ar ei anterth, roedd 70 o ymladdwyr yn ceisio diffodd y fflamau, ond mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Cymru'n dweud eu bod yn bwriadu gadael i'r tân ddiffodd ohono'i hun.

Image copyright Nicholas Chamberlain