Tarw newydd i sicrhau llinach gwartheg gwynion Dinefwr

  • 31 Mai 2017
Quattro'r tarw Image copyright Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Image caption Y disgwyl yw y bydd Quattro yn sicrhau parhad llinach y gwartheg gwynion

Bydd tarw allai sicrhau parhad llinach gwartheg gwynion Dinefwr yn cyrraedd yr ardal ddydd Mercher.

Yn ddiweddar mae'r brîd, sydd wedi ymgartrefu yn Ninefwr ers dros 1000 o flynyddoedd, wedi bod yn prinhau.

Mae'r gwartheg yn adnabyddus oherwydd eu cotiau gwyn pur a thrwyn a chlustiau du.

Ond erbyn hyn dim ond 1500 o wartheg bridio sydd ar ôl yn y byd ac y mae gyr Llandeilo angen tarw.

Bydd Quattro'r tarw yn cyrraedd wedi ymgyrch i godi arian gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Image copyright Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Huw John
Image caption Bydd Wyn Davies (uchod) yn hyfforddi prif ffermwr gwartheg newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhodri Thomas

Y gred yw mai yn y flwyddyn 920 y ddaethon nhw i'r ardal, ac mae sawl cyfeiriad atyn nhw yng nghyfreithiau Hywel Dda.

Ond bellach, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, maen nhw yn fwy prin na'r panda mawr.

Bydd Quattro yn gyfrifol am wasanaethu 30 buwch a'u hepil.

'Disgwyl mawr' am Quattro

Dywedodd Rhodri Thomas, sydd wedi'i benodi yn brif ffermwr gwartheg: "Mae disgwyl mawr wedi bod am i Quattro gyrraedd.

"Mae 'na gryn chwilio wedi bod ac rwy'n siwr bod Quattro yn addas i'r gwaith.

"Bydd hi'n cymryd pedwar mis iddo wasanaethu pawb ac fe fyddwn yn gwybod gwanwyn nesaf a yw e wedi bod yn llwyddiannus."

Daw'r tarw ifanc o Ddyfnaint ond mae'n debyg bod e'n hannu o Ddinefwr.

Mae ymgyrch yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddiogelu'r llinach wedi cyrraedd hanner y nod ariannol o £36,000.