Paham y rhoddaist inni'r tristwch hwn?

Tra'n ymchwilio ar gyfer rhaglen ynghylch Pantycelyn des i o hyd i deyrnged iddo mewn cylchgrawn o'r enw "The Gentleman's Magazine", erthygl oedd yn darogan taw Williams fyddai'r bardd olaf i ysgrifennu yn nhafodiaith y de gan fod y Gymraeg yn prysur ddiflannu o ddeheudir y wlad.

Oedd, roedd y Gymraeg ar ei gwely angau yn y 18fed ganrif ac mae'n ymddangos fod hi wedi bod yna byth ers hynny!

Am wn i, mae pesimistiaeth yn rhan annatod o'n cymeriad cenedlaethol ac roedd hi'n amlwg yn rhengoedd pleidiau chwith ar gychwyn yr ymgyrch etholiadol gyda rhai'n darogan tranc y genedl yn sgil cyhoeddi un pôl piniwn!

Ddiwedd wythnos ddiwethaf roedd un o hen bennau'r blaid Lafur yn darogan i mi mai Llanelli fyddai'r unig sedd Lafur y tu hwnt i Forgannwg a Gwent a bod y cyfan o seddi Caerdydd ynghyd â'r Rhondda a Blaenau Gwent yn llithro o'i gafael.

Mae'r pendil wedi symud gyda'r polau ac erbyn hyn ymgyrchwyr Llafur sydd a'u cytiau lan ac mae ambell i Dori a'i ben yn ei blu. Fe gawn weld faint o sylwedd sydd 'na i'r adfywiad Llafur yn ddigon buan ond mae'r cyfan yn ein hatgoffa o ba mor bwysig yw'r arolygon barn wrth greu naratif a momentwm etholiadol.

Mae hynny'n arbennig o wir yng Nghymru, wrth gwrs, lle mae'n rhaid dibynnu bron yn llwyr ar ddata gan un cwmni wrth geisio mesur y llanw a thrai etholiadol.

Y broblem yw wrth gwrs bod canlyniadau arolygon yn dylanwadu ar batrymau pleidleisio. Mae'n ddigon posib bod yr holl ddarogan yng nghylch senedd grog yn 2015 wedi esgor ar fwyafrif annisgwyl David Cameron a bod yr adfywiad Llafur presenol yn deillio'n rhannol o'r canfyddiad nad yw'n hi'n bosib i'r blaid ennill y tro hwn.

Fe fyddai 'na eironi pert pe bai etholiad 2017 yn esgor ar senedd grog oherwydd ofnau ynghylch maint mwyafrif y Ceidwadwyr.