Rhodri Morgan
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Seremoni angladd Rhodri Morgan yn y Senedd

Cafodd seremoni angladd y cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, ei chynnal yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Bu farw Mr Morgan yn gynharach ym mis Mai yn 77 oed.

Y ddyneiddwraig Lorraine Barrett fu'n arwain y seremoni, gyda'r prif weinidog presennol, Carwyn Jones, ymhlith y siaradwyr.