Becws yn Wrecsam yn creu 50 o swyddi wrth ehangu

  • 31 Mai 2017
Tywysog Charles a Duges Cernyw yn agor academi a chanolfan arloesi'r cwmni yn 2015 Image copyright Village Bakery
Image caption Tywysog Charles a Duges Cernyw yn agor academi a chanolfan arloesi'r cwmni yn 2015

Mae becws yn Wrecsam yn dweud y byddan nhw'n creu 50 o swyddi newydd wrth ehangu er mwyn "ateb galw cynyddol".

Fe fydd 12 o brentisiaethau ymhlith y swyddi newydd ar dri safle'r Village Bakery ar stad ddiwydiannol Wrecsam a phentre'r Mwynglawdd gerllaw.

Yn dilyn y cynnydd fe fydd gweithlu'r becws yn codi i 500.

Image copyright Mandy Jones
Image caption Cyfarwyddwr gweithredu'r Village Bakery, Simon Thorpe (canol) gyda dau brentis Bilei Mejbri (chwith) a Jac Griffiths

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredu'r cwmni, Simon Thorpe, fod y cwmni'n ffodus iawn i fynd drwy "cyfnod arall o dwf sylweddol".

Mae'r cynllun ehangu ar wahân i gynllun arall gan y cwmni i greu becws newydd anferth gwerth £16m. Cafodd cais cynllunio ei gyflwyno i Gyngor Wrecsam y llynedd am hwnnw, ac roedd addewid o 100 o swyddi newydd gyda'r cynllun.

Bydd prentisiaid yr ehangu presennol yn cael hyfforddiant yn academi bobi a chanolfan arloesi'r cwmni a gafodd ei hagor yn swyddogol gan y Tywysog Charles a Duges Cernyw yn 2015.

Straeon perthnasol