Twrnament Toulon: Cymru 0-0 Ffrainc

Luke Pilling Image copyright Rex Features
Image caption Fe wnaeth golwr Tranmere, Luke Piling sawl arbediad

Fe orffennodd gem gyntaf tîm dan 20 Cymru yn Nhwrnament Toulon yn ddi-sgôr yn erbyn Ffrainc.

Y Ffrancwyr ddechreuodd orau yn Aubagne wrth i Luke Pilling yn y gôl i Gymru wneud arbediad da o ergyd Jean Ruiz.

Fe gafodd Nathan Broadhead gyfle i sgorio i Gymru cyn yr egwyl, ond roedd ergyd ymosodwr Everton ymhell dros y trawst.

Cymru ddechreuodd yr ail hanner orau, Broadhead eto yn curo dau ddyn cyn gorfodi golwr Ffrainc i wneud arbediad.

Fe ddaeth ymosodwr West Brom, Tyler Roberts i'r maes wedi 49 munud i ychwanegu at linell ymosod Cymru.

Gyda'r gêm yn dirwyn i ben bu bron i Ffrainc sgorio drwy beniad pwerus gan Livolant, ond fe arbedodd Pilling yn wych.

Bydd Cymru yn wynebu Bahrain ar 2 Mehefin yn eu hail gêm yng Ngrŵp B.