Eisteddfod Ela

  • 31 Mai 2017
Ela a Mistar Urdd

Mae pob un ohonom yn gyfarwydd â bwrlwm ac antur Eisteddfod yr Urdd, codi'n fore i yrru i'r rhagbrofion a chroesi bysedd na fydd angen ôl y 'wellies' o fŵt y car!

Ond fyddai'r holl beth yn amhosib heb gyfraniad sêr y Steddfod: y plant a'r cystadleuwyr.

Un sy'n gyfarwydd iawn â chystadlu yw Ela Mablen Griffiths-Jones o Ysgol Gynradd Aberaeron sy'n rhannu ei dyddiadur hi o'i diwrnod ar faes Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ela o Ysgol Aberaeron sy’n rhannu ei dyddiadur hi o’i diwrnod ar faes Eisteddfod yr Urdd
Image caption Bu Ela'n cadw dyddiadur o'i hanturiaethau yn ystod y dydd…
Image caption Casglu sticeri, traddodiad pwysig erbyn hyn i Eisteddfodwyr brwd.