Cynnal gwasanaeth i gofio Rhodri Morgan

  • 1 Mehefin 2017
Rhodri Morgan ar Yr Wyddfa 2009 Image copyright Getty Images

Cafodd gwasanaeth ar gyfer y cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan ei gynnal mewn amlosgfa yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Bu farw Mr Morgan, a fu'n arwain Llywodraeth Cymru am naw mlynedd, ganol mis Mai.

Ddydd Mercher daeth cannoedd i ddathlu ei fywyd mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd.

Roedd croeso i'r cyhoedd hefyd fynd i Gapel Y Wenallt, Amlosgfa Thornhill ar gyfer y gwasanaeth ddydd Iau.

Straeon perthnasol