Pedwar o Gymry yn nhîm y Llewod ar gyfer y gêm gyntaf

  • 31 Mai 2017
Sam Warburton Image copyright Getty Images

Mae'r Llewod wedi enw pedwar Cymro ymysg y 15 chwaraewr fydd yn wynebu Barbariaid Taleithiol Seland Newydd ddydd Sadwrn.

Bydd Ross Moriarty, Sam Warburton a Taulupe Faletau gyda'i gilydd yn y rheng ôl, gydag Alun Wyn Jones yn yr ail reng.

Mae Rhys Webb a Justin Tipuric hefyd wedi'u henwi ar y fainc, gyda Warburton yn gapten ar y tîm ar gyfer gêm gyntaf y daith.

Ni chafodd chwaraewyr oedd yn chwarae i'w clybiau dros y penwythnos eu hystyried ar gyfer y gêm gyntaf.

Tîm y Llewod: S Hogg (Alban), A Watson, J Joseph, B Te'o (oll o Loegr), T Seymour (Alban), J Sexton (Iwerddon), G Laidlaw (Alban); J Marler (Lloegr), R Best (Iwerddon), K Sinckler (Lloegr), AW Jones (Wales), I Henderson (Iwerddon), R Moriarty, S Warburton, T Faletau (oll o Gymru).

Eilyddion: J George, M Vunipola (y ddau o Loegr), T Furlong (Iwerddon), G Kruis (Lloegr), J Tipuric, R Webb (y ddau o Gymru), O Farrell (Lloegr), J Payne (Iwerddon).