Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy

  • 1 Mehefin 2017
Heddlu

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Fenni yn Sir Fynwy yn gynnar fore Iau.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar gylchfan ym mhentref Llan-ffwyst ychydig cyn 05:30, ger Afon Wysg.

Cafodd y dyn lleol 61 oed ei gymryd i'r ysbyty, ond bu farw'n ddiweddarach yn y bore.

Doedd dim cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.