Gwyn Derfel a thymor Uwch Gynghrair Cymru 2016/17
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gwyn Derfel yn trafod uchafbwyntiau'r tymor pêl-droed

1 Mehefin 2017 Diweddarwyd 09:49 BST

Gydag Uwch Gynghrair Cymru yn dathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu, mae Gwyn Derfel wedi bod yn trafod uchafbwyntiau'r tymor diwethaf ar raglen Ar y Marc, Radio Cymru.

Yn 1992, daeth Cynghrair Cymru fel yr oedd hi i fodolaeth dan arweiniad cyn-ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y diweddar Alun Evans.

Ar y pryd roedd statws Cymru fel gwlad annibynnol dan oruchwyliaeth FIFA dan fygythiad, gan fod y prif glybiau yng Nghymru yn chwarae eu pêl-droed yng nghynghreiriau Lloegr.