Neges yn Gymraeg gan Claudio Marchisio
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cyfarchion Cymraeg seren Juventus, Claudio Marchisio

1 Mehefin 2017 Diweddarwyd 10:13 BST

Claudio Marchisio, un o sêr Juventus sydd wedi chwarae dros 350 o gemau i'r clwb, a sgorio 37 o goliau.

Ond cyn gêm fwyaf y byd pêl-droed, ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd nos Sadwrn, mae Marchisio wedi gyrru ei gyfarchion i bobl Cymru, yn Gymraeg!

Cafodd y chwaraewr canol cae ei hyfforddi yn y Gymraeg gan Gabriel Cortinas, sy'n byw yn y dref o ble mae Marchisio yn dod.

A gan ei fod yn dysgu Saesneg i chwaer Marchisio, Elena, aeth ati i ddysgu ambell air o Gymraeg i'r gŵr o'r Eidal.