Sain Ffagan: Ddoe a heddiw

  • 14 Mehefin 2017

Mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Yno mae adeiladau o bob math sydd wedi eu datgymalu'n ofalus yn eu lleoliadau ledled Cymru, cyn eu hailadeiladu'n gywrain ar y safle ar gyrion Caerdydd.

Ond beth am yr ymwelwyr hynny sydd yn cofio'r adeilad yn ei leoliad gwreiddiol? Cafodd Cymru Fyw sgwrs â rhai o'r bobl hynny, a holi pa mor rhyfedd yw hi i ailymweld â hen le cyfarwydd, a gweld golygfa wahanol wrth edrych allan drwy'r ffenest...


Institiwt y Gweithwyr Oakdale

Image copyright Catrin Noakes
Image caption Cafodd bawb hwyl ym mhriodas Catrin a David yn yr Institiwt, a daeth bod yno â llawer o atgofion yn ôl i Andy

Pan roedd David Noakes a'i ddyweddi Catrin yn ceisio dod o hyd i leoliad i gynnal eu brecwast priodas ym Mai 2016 roedd y dewis yn glir - Institiwt y Gweithwyr Oakdale yn Sain Ffagan.

Mae David yn wreiddiol o bentref bach Oakdale ger Y Coed Duon, a Catrin o'r brifddinas, felly roedd hi'n ffordd wych o ddod ag Oakdale a Chaerdydd ynghyd - ac roedd y ffaith ei fod yn adeilad mor hardd yn eisin ar y gacen.

Cafodd Institiwt y Gweithwyr Oakdale ei agor yn Sain Ffagan yn 1995, ar ôl iddo gael ei ddymchwel yn ofalus yn Oakdale a'i gludo i'r amgueddfa yn 1989.

Mae bellach wedi ei hen sefydlu ar fap Sain Ffagan, fel adeilad mawreddog. Efallai eich bod chi'n cofio ambell i bennod o Doctor Who sydd wedi ei ffilmio yno hefyd.

Mae tad David, Andy, yn cofio'r adeilad yn ei fan gwreiddiol yn dda iawn: "Yn Y Coed Duon o'n i'n byw pan yn blentyn - dwi'n cofio mynd i Stiwt Oakdale bob hyn a hyn, gan fod Dad o'r pentref ac ymwneud â'r gymuned."

Roedd y pentref wedi cael ei adeiladu er mwyn cartrefu'r gweithwyr a fyddai'n cloddio ym mhwll glo Oakdale, gafodd ei suddo'n wreiddiol yn 1907.

Image copyright Amgueddfa Cymru
Image caption Institiwt Oakdale yn ystod ymweliad Tywysog Albert yn 1920

Cafodd yr institiwt ei agor yn 1917, ac roedd yn lle i weithwyr y pwll ymgynnull; i ddarllen papurau newydd yn y stafell ddarllen, defnyddio'r llyfrgell, cynnal pwyllgorau, a chymdeithasu.

"Es i i'r neuadd snwcer oedd yn selar yr adeilad 'chydig o weithiau, a dwi'n cofio mynd i weld Dad yn perfformio 'da'r gymdeithas opera lleol, oedd yn cyfarfod yno."

Cafodd y pwll glo ei gau yn 1989, ond roedd yr institiwt wedi bod yn dirywio dipyn cyn hynny.

Mae Andy'n credu y byddai'r adeilad llawer mwy o fudd i'r gymuned y dyddiau yma, oherwydd y gwahanol glybiau fyddai'n gallu ei ddefnyddio.

Mae nifer o institiwtiau tebyg yn yr ardal wedi cael eu hadnewyddu'n ddiweddar, ac yn mynd o nerth i nerth, meddai, fel yr un yn Y Coed Duon.

"Ond wedi dweud hynny," meddai, "mae'n beth da ei fod wedi cael ei symud i Sain Ffagan, er mwyn cael ei drysori a'i gadw mewn cyflwr da."

Dydd y briodas, roedd hi braidd yn rhyfedd i Andy i fod yn ôl yn yr adeilad ar ôl gymaint o flynyddoedd, ond yn brofiad arbennig iawn. "Roedd e'n dod ag atgofion yn ôl o'n nhad i'n actio yn Mikado, ac o'n i methu stopio meddwl os mai'r llenni coch ar y llwyfan oedd yr un rhai fyddai wedi bod yno bryd hynny!"


Bwthyn Llainfadyn

Image copyright Elfed Hughes
Image caption Rhieni Elfed, John a Maggie Hughes, tu allan i Llanifadyn, a llun o Elfed a'i rieni, ei wraig Katie, a'i fab Dewi yn 1953 - y flwyddyn symudodd y teulu o'r bwthyn

Bwthyn bach Llainfadyn yw un o adeiladau mwyaf poblogaidd yr amgueddfa. Cafodd ei adeiladu'n wreiddiol yn Rhostryfan ger Caernarfon yn 1762, cyn cael ei ddatgymalu'n ofalus yn yr 1950au a'i agor yn Sain Ffagan yn 1962.

Cafodd Elfed Hughes ei eni yn mwthyn Llainfadyn ym mis Awst 1926 - y plentyn olaf o bedwar i gael ei eni yn yr llofft flaen.

Bu'n byw yno am dros bum mlynedd ar hugain gyda'i rieni, ei chwaer a'i ddau frawd. Os ewch chi fyth i'r bwthyn bach, byddech chi'n synnu fod chwech wedi byw yno!

"Roedd bywyd yno yn hapus", meddai. "Ro'n i'n mwynhau byw yno, yn enwedig cysgu yn y daflod - roedd dau ohona ni'n cysgu i fyny yno, a dau ar y llawr isaf."

"Roedd o'n lle braf, ac yn syndod o gynnes yn ystod y gaeaf, oherwydd fod y waliau mor drwchus, a'r lle tân mor fawr. Doedd yna ddim dŵr na thrydan yn y bwthyn - dim ond pistyll yn y cefn, ac yn aml roedd hwnnw'n ddŵr budr."

Ar ôl i'r perchnogion geisio agor y pistyll i roi dŵr i'r bwthyn, bu llawer o lifogydd a bu'n rhaid i'r tenantiaid adael.

"Roedd Iorwerth Peate wedi bod i weld y tŷ, ac yn y diwedd rhoddodd Kate Williams, y perchennog, y tŷ iddo fo, a rhoi £300 iddo fo helpu i symud y tŷ i lawr i Sain Ffagan", cofia Elfed.

Yn 1953, ffarweliodd y teulu â'r bwthyn am y tro olaf. Aeth Elfed i dŷ arall yn Rhostryfan gyda'i wraig a'i fab, ac aeth ei rieni i Ros Isaf. "O'dd Mam ddim r'un peth ar ôl symud o Llainfadyn - 'naeth hi 'rioed setlo yn nunlle arall ar ôl iddi symud o'na", meddai.

Image copyright Ffion Wynn
Image caption Pedair cenhedlaeth - Elfed, ei fab Dewi, ei wyres Ffion a'i or-ŵyr Deio yn ymweld â Llainfadyn yn Sain Ffagan

Mae Elfed wedi ymweld â Sain Ffagan ddwywaith i weld Llainfadyn - unwaith yn yr 1960au, ac unwaith ychydig flynyddoedd yn ôl, gyda'i deulu.

Fel mae ei wyres, Ffion, yn ei gofio, roedd y profiad yn eithaf swrreal i'w thaid, gan ei fod yn amlwg yn cofio'r bwthyn fel roedd o yn ystod ei blentyndod, ac mae Sain Ffagan wedi ei addurno o gyfnod hŷn na hynny. Ond roedd dal yn mwynhau hel atgofion am y lle.

"'Naeth o bwyntio allan patsh ar nenfwd y daflod oedd wedi cael ei drwsio. Mae'n debyg fod ei chwaer ag yntau wedi bod yn neidio ar y gwely gymaint un noson, fel fod coes y gwely wedi mynd drwy'r llawr! Roedd clywed straeon felly yn arbennig iawn.

"Roedd Elfed wrth ei fodd yno, ac mae o mor falch fod y bwthyn yn Sain Ffagan er mwyn cael ei drysori am byth."

  • Oes gennych chi atgofion am un o adeiladau Sain Ffagan? Anfonwch eich profiadau at cymrufyw@bbc.co.uk