"Ddim yn gwybod pwy o'n i"

Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai pobl

josh Image copyright Josh Michaux-Trask
Image caption Dechreuodd y bwlio pan roedd Joseph yn yr ysgol gynradd

Fe wnaeth bwlio homoffobig arwain un bachgen at ymyl y dibyn, a bu bron iddo ladd ei hun. Mae Josh Michaux-Trask yn rhannu ei stori gyda Cymru Fyw.


"Ro'n i mewn lle tywyll. Ro'n i wedi dechrau mynd am dro ar fy mhen fy hun, er mwyn dianc o ddigwyddiadau'r dydd. Roedd gen i feddyliau ofnadwy ac ro'n i eisiau lladd fy hun," meddai Josh Michaux-Trask, sy'n byw erbyn hyn yn Nhonyrefail gyda'i bartner sifil, Martin.

"Roedd y bwlis yn ennill y dydd, ac ro'n i wedi cael llond bol. Do'n i ddim yn gallu gweld goleuni ar ddiwedd y twnnel."

Yna, un diwrnod, ag yntau wedi cyrraedd ymyl pont, fe ddaeth yr awr. Ai dyna oedd ei achubiaeth?

Roedd e wedi pasio heibio'r bont sawl gwaith o'r blaen, ond erioed wedi stopio gyda'r fath feddyliau tywyll.

"Ro'n i wedi cael llond bol. Wnes i dreulio ryw ddeg munud, gyda dagrau yn llifo i lawr fy mochau, yn meddwl am neidio. Yn trio perswadio fy hun mai dyma'r ateb," meddai Josh.

"Dyma'r adeg pan oeddwn i'n cwestiynu fy rhywioldeb. Ro'n i mewn penbleth, roedd cymdeithas dal yn erbyn homosexuality."

Gyda geiriau creulon y bwlis yn adleisio'n ei feddwl - gay, poof, faggot - dechreuodd feddwl ai nhw oedd yn iawn wedi'r cyfan?

"Do'n i ddim yn gwybod pwy o'n i, ac fe wnaeth hynny fy arwain i at ochr y dibyn, yn llythrennol," meddai.

Hyd at y dydd hwn, dydy e ddim yn gwybod pam wnaeth e gerdded i ffwrdd.

"Dwi'n hoffi meddwl mai cariad fy nheulu oedd wedi fy atal, ond dwi'n siŵr nad ydy'r ateb mor syml a hynny," meddai.

"Ar y pryd, do'n i ddim yn sylweddoli pa mor agos o'n i at orffen fy mywyd. Ro'n i'n fud i fy modolaeth."

Teimlo'n 'neb'

"Mae gen i lawer o atgofion da o fy nyddiau plentyndod. Er bod fy rhieni'n gweithio llawn amser, roedd dal amser am ddyddiau mas, gwyliau mewn carafán ac ati," meddai Josh Michaux-Trask, 32, sy'n berfformiwr a chanwr.

"Roedd fy rhieni yn llym ond yn deg, a chefais i a fy chwaer ein magu i fod yn annibynnol, i fod yn ofalus gyda'n harian, ac roedden nhw'n rhoi cyfrifoldebau i ni o oed ifanc. Allen i ddim wedi gofyn am well," meddai.

Image copyright Josh Michaux-Trask

Ond y bwlio oedd y cysgod mawr dros ei fywyd, a hynny pan symudodd y teulu o'r Drenewydd ym Mhowys, yn ôl lawr i dde Cymru.

"Bywyd newydd, mewn cymuned newydd, mewn ysgol newydd," meddai.

I blentyn wyth oed, roedd yn antur ac roedd yna elfen o gyffro wrth symud i ardal lle'r oedd y rhan fwyaf o'i deulu yn byw.

"Do'n i byth wedi cael trafferth i wneud ffrindiau newydd, a chymdeithasu gyda phlant yr un oed a mi," meddai.

Yn fuan iawn ar ôl dechrau yn ei ysgol newydd, wnaeth y bwlio ddechrau. Yn bennaf oherwydd ei acen.

"Roedd gen i acen reit posh a Saesnig, oherwydd fy nghyfnod yn y Drenewydd, ac roedd e'n wahanol iawn i acen pawb arall," meddai.

"Roedd hyn yn rwystr naturiol, ac ro'n i'n darged hawdd i blant. Er, yn yr ysgol gynradd, roedd y bwlio'n reit ysgafn, ar wahân i'r un tro yna pan gefais fy maglu gan ddau fachgen a alwodd fi'n Joshalena."

Yn yr ysgol uwchradd, aeth pethau'n waeth gyda'r bwlio, a phobl yn ei alw'n enwau.

"Ro'n nhw'n fy ngalw i'n gay, poof, neu faggot gwpwl o weithiau'r dydd. Roedd hynny ar ddiwrnod da," meddai.

"Roedd galw enwau yn digwydd bob dydd, a bydden i'n treulio fy nyddiau yn ceisio osgoi bechgyn a oedd yn fy mwlio.

"Dwi'n cofio ar gwpwl o achlysuron, wnaeth y bwlio droi'n gorfforol, ond wnes i lwyddo i amddiffyn fy hun."

Dewis osgoi'r bwlio wnaeth Josh y rhan fwyaf o'r amser, ond roedd e'n wyliadwrus iawn, ac yn gwybod y llefydd y dylai eu hosgoi.

"Ro'n i'n edrych dros fy ysgwydd drwy'r amser, ac yn dewis fy ffrindiau'n ofalus. Ro'n i'n unig iawn, ac yn teimlo nad o'n i'n neb. Bod neb yn poeni amdana i," meddai.

Image copyright Google
Image caption Gwaethygodd y bwlio ar ôl i Josh symud o'r Drenewydd i dde Cymru

Ymosodiad

Un dydd Sadwrn pan oedd yn ei arddegau, cafodd brofiad ofnadwy ar fws.

"Ro'n i'n mynd bob dydd Sadwrn i'r dref, er mwyn mynd i Woolworths i brynu'r gerddoriaeth ddiweddaraf," meddai.

"Dyna oedd fy nihangfa. Mynd i fy ystafell wely, a gwrando ar gerddoriaeth a chanu. Ond y diwrnod hwnnw, roedd y bws yn reit wag, oni bai am y gyrrwr a chwpwl o fechgyn.

"Dechreuodd y bechgyn fy nharo i ar mhen, tra'n chwerthin, ac es i at yr heddlu," meddai Josh.

"Cafodd y bechgyn rybudd, ond roedd y gefnogaeth ges i'n ofnadwy. Ro'n i mewn lle tywyll iawn."

Doedd yr ysgol ddim yn cynnig llawer o help ar y pryd, meddai, er ei fod yn sôn yn aml wrth athrawon bod plant eraill yn ei alw'n enwau fel gay ac ati.

Ar y pryd roedd Cymal 28 yn Neddf Llywodraeth Leol 1988 yn atal cynghorau rhag hyrwyddo'r gymuned hoyw a'u ffordd o fyw.

"Diolch byth, heddiw, mae ysgolion yn trin y broblem, ond mae ystadegau elusen Stonewall yn dangos bod bwlio homoffobig yn dal i fod yn broblem fawr.

"Rhaid i blant ddeall yn llawn fod pob rhywioldeb yn gyfartal. Mae rhai yn anghytuno, ond yn fy mhrofiad fy hun, fe wnaeth diffyg addysg arwain i mi bron â lladd fy hun.

Image caption Mae Josh yn annog unrhywun sy'n cael ei fwlio i gysylltu gydag elusen

"Peidiwch â'i oddef. Rhaid i chi ddweud wrth rywun, boed yn ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro, cwnselydd. Neu cysylltwch gydag elusen fel Childline," meddai.

"Does dim rhaid dioddef mewn tawelwch fel wnes i. Mae yna bobl allan yna sydd wedi eu hyfforddi i ddelio gyda be' ry'ch chi'n mynd trwyddo. Dy'ch chi ddim ar eich pen eich hun."

Stori: Llinos Dafydd