Dynes wedi marw ar ôl digwyddiad mewn llyn yng Ngwynedd

Llyn Glas, Y Friog Image copyright Geograph

Mae dynes o Sir Stafford wedi marw yn dilyn digwyddiad mewn llyn yng Ngwynedd.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y digwyddodd y "ddamwain drasig" yn chwarel Llyn Glas yn Y Friog ddydd Mawrth.

Mae ffeil yn cael ei baratoi ar gyfer y crwner, meddai'r llu.

Dywedodd y Sarjant Helen Gallop bod "ymchwiliadau cynnar wedi dangos nad yw'r llyn yn le diogel i nofio na neidio i'r dŵr a'n cyngor ar hyn o bryd yw i gadw draw".