Lyon yn ennill ffeinal y merched ar ôl ciciau o'r smotyn

  • 1 Mehefin 2017
Alex Morgan Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r Americanwraig Alex Morgan sy'n chwarae i Lyon, wedi sgorio 73 gwaith mewn 123 o ymddangosiadau dros ei gwlad

Lyon 0-0 Paris St-Germain (7-6 ciciau o'r smotyn)

Lyon yw pencampwyr pêl-droed merched Ewrop, a hynny yn dilyn ffeinal agos iawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau.

Er i'r ddau dîm gael digon o gyfleoedd i sgorio yn ystod y gêm, di-sgôr oedd y canlyniad ar ôl 90 munud o chwarae.

Yn wir, methodd y naill dîm gymryd mantais yn yr amser ychwanegol, gan orfodi i dynged y gêm gael ei benderfynu drwy giciau o'r smotyn.

Fe ddaeth y chwaraewr o Norwy, Ada Hegerberg yn agos i roi Lyon ar y blaen ar ôl 19 munud, ond roedd golwr PSG yn barod am ei ergydion chwim.

Daeth rhagor o gyfleoedd, i'r ddau dîm, un yn arbennig i Marie-Laure Deli o PSG, gydag ergyd gyflym o du allan i'r cwrt cosbi, a wyrodd heibio'r postyn chwith.

Ciciau o'r smotyn

PSG oedd y cyntaf i gymryd cic o'r smotyn, gyda Cristiane yn rhwydo'r bêl, Majiri aeth ymlaen i gymryd ymgais gyntaf Lyon, a hithau hefyd yn rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd.

Fe aeth y ddau dîm ymlaen i gymryd wyth ergyd yr un, y naill dîm yn ildio un ymgais, ond PSG oedd y cyntaf i ildio'r ail gic, gyda Kiedrzynek yn methu.

Llwyddodd Bouhaddi felly i sicrhau'r fuddugoliaeth i Lyon, gyda'u hymgais nesa nhw.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd ffeinal y merched yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Dyma'r tro cyntaf i ddinas Brydeinig gynnal y digwyddiad ers 2013.

Roedd Côr Glanaethwy o Fangor yn perfformio yn y stadiwm cyn y gêm.

Dywedodd y trefnwyr fod mwy 'na 22,000 o gefnogwyr wedi mynychu'r digwyddiad nos Iau.

Fe fydd Real Madrid yn wynebu Juventus yn ffeinal y dynion nos Sadwrn, a fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru yn y brifddinas.