Galw am fwy o gyrsiau galwedigaethol drwy'r Gymraeg

  • 2 Mehefin 2017
iestyn davies
Image caption Mae dwy ran o dair o bobol ifanc 16-19 yn astudio mewn colegau addysg - felly mae angen digon o gyrsiau iddynt yn y Gymraeg, yn ôl Iestyn Davies

Mae prif weithredwr Colegau Cymru wedi dweud fod angen rhagor o sylw i addysg bellach yn gyffredinol, os am wella'r ddarpariaeth Gymraeg yn y sector.

Dywedodd Iestyn Davies fod angen rhagor o fuddsoddi mewn cyrsiau galwedigaethol yn y Gymraeg, yn enwedig mewn sectorau allweddol fel iechyd a gofal.

Gwnaeth yr alwad ar y cyd â Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ar faes Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái.

Ar hyn o bryd mae 8% o ddarpariaeth addysg bellach yng Nghymru ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda tharged i'w gynyddu i 10% erbyn 2020.

'Sgil i'r dyfodol'

Mynnodd Mr Davies nad oedd digon o sylw yn cael ei roi i'r "agenda addysg alwedigaethol", hyd yn oed mewn trafodaethau am y sector addysg.

"Dyna'r cam cyntaf, cael dadl ynglŷn ag addysg alwedigaethol, ac yna sicrhau o fewn y ddadl honno fod y Gymraeg yn un o'r sgiliau y mae'n rhaid i weithlu'r dyfodol feddu arni," meddai.

"Nid jyst mewn sectorau fel iechyd a gofal, ein bod ni'n barod i greu cyfleoedd i bobl sy'n astudio mathemateg neu beirianneg.

"Mae'n rhaid i ni edrych ar y sectorau hefyd ble mae cael dealltwriaeth o'r Gymraeg yn helpu'r busnes - y diwydiant lletygarwch er enghraifft."

Image copyright Getty Images

Ymysg yr heriau i'r sector, meddai, oedd "sicrhau bod y staff sydd gyda ni ar hyn o bryd yn hyderus i ddefnyddio'u Cymraeg", yn ogystal ag annog mwy o fyfyrwyr i ddewis astudio drwy'r Gymraeg.

"Falle mai dyma'r tro cyntaf mae rhai o'r bobl ifanc yma'n gwneud dewis dros eu hunain sy'n mynd i gael effaith tymor hir ar eu datblygiad personol nhw," meddai.

Un o'r camau nesaf, yn ôl Mr Davies, fydd gweithio gyda'r Urdd i geisio sefydlu aelwydydd o fewn colegau ac ar gampysau gwahanol.

"Rydyn ni'n fodlon gweithio ar y cyd gyda mudiadau eraill," ychwanegodd.

'Bwlch'

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws fod angen sicrhau bod "y system addysg drwyddi draw yn paratoi gweithlu sydd â'r sgiliau ieithyddol i ddarparu gwasanaethau'n ddwyieithog".

"Un rhan o'r jig-so addysg sydd fel pe bai wedi derbyn llai o sylw na'r meysydd eraill ar hyd y blynyddoedd yw ystod o ddewis sydd ar gael mewn addysg ôl-16," meddai.

"Serch hynny, mae bwlch yn y ddarpariaeth Gymraeg mewn colegau addysg bellach, ac yn y cyrsiau galwedigaethol yn arbennig.

"Mae angen mynd ati fel mater o frys i greu'r hinsawdd a fydd yn rhoi'r sgiliau i fyfyrwyr i wasanaethu cymunedau Cymru â'r sgiliau sydd eu hangen."

Image caption Mae angen paratoi'r gweithlu i allu "darparu gwasanaethau'n ddwieithog", meddai Meri Huws

Mewn ymateb dywedodd prif weinidog Cymru, Carwyn Jones mai colegau oedd yn "penderfynu beth maen nhw'n ei wneud", gan gydnabod fodd bynnag bod "dyletswydd" ar ei lywodraeth yntau i'w cefnogi.

"'Dyn ni ddim am i bobl feddwl 'os chi'n mynd lawr y llwybr academaidd wedyn llwybr Cymraeg yw e, ond heb hynny llwybr Saesneg yw e'," meddai wrth ymweld â maes Eisteddfod yr Urdd.

"Mae'n hollbwysig fod y colegau yn deall hyn, fod ni'n deall unwaith mae rhywun yn mynd ar hyd llwybr galwedigaethol dyw e ddim yn golygu bod rhaid iddyn nhw newid iaith o achos hynny."

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sefydliadau addysg bellach "er mwyn sicrhau bod mwy o gyrsiau yn Gymraeg ar gael, yn y coleg neu yn yr ysgol".