Mae Cymru'n barod...

Bydd llygaid y byd ar Gymru ar 3 Mehefin pan fydd rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd. Mae miloedd o gefnogwyr Real Madrid a Juventus eisoes wedi cyrraedd y brifddinas ac mae'r awyrgylch yn cynhesu. Dyma 'chydig o flas y paratoadau trwy lens y ffotograffydd Sioned Birchall:


Image caption Croeso i Gymru!
Image caption Mi fuodd y cwpan enwog ar ymweliad â Eisteddfod yr Urdd yn gynharach yr wythnos hon
Image caption Mae 'na drefniadau diogelwch llym mewn grym
Image caption Mae 'na gyfle hefyd i sêr y dyfodol arddangos eu doniau
Image caption Bydd cannoedd o gefnogwyr yn cysgu dan y sêr yng nghaeau Biwt
Image caption Pwy fydd yn codi'r cwpan? Buffon o Juve ynteu Ronaldo o Real?
Image caption Bydd rhai o sêr y gorffennol yn perfformio ar y maes anarferol yma. Gobeithio na fydden nhw yn deifio gormod!
Image caption Ydych chi'n ddigon da i ymuno â charfan Real Madrid?
Image caption Y wasg yn cadw llygad barcud ar rownd derfynol y merched yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau
Image caption Sebra o Turin yn dod ar draws un o gefnogwyr Cymru ym Mae Caerdydd
Image caption Mae 'na gyfle i bawb osod ei stamp ei hun ar yr achlysur