Cyfle i gael blas ar waith rheilffordd hanesyddol

Talyllyn

Bydd modd i bobl yng Ngwynedd gael blas ar weithio ar reilffordd hanesyddol dros y penwythnos.

Fe fydd cyfle i wirfoddoli ar Reilffordd Tal-y-llyn, gan wneud dyletswyddau yn cynnwys gweithio ar y trenau, yn yr amgueddfa ag ar y traciau.

Mae'r rheilffordd wedi bod yn cynnig gwasanaeth drenau ers y 1860au o Dywyn ym Meirionnydd, ac fe gafodd ei achub rhag cau yn 1951 gan gymdeithas o gefnogwyr brwd.

Yn ystod y penwythnos bydd cyfle i wirfoddoli a gweld yr hyn sydd ei angen o ran hyfforddi er mwyn gweithio ar y rheilffordd.

Image copyright DARREN TURNER