Twrnament Toulon: Cymru 1-0 Bahrain

Daniel James Image copyright Rex Features
Image caption Asgellwr Abertawe, Daniel James sgoriodd y gôl fuddugol yn y munudau olaf

Fe wnaeth tîm dan 20 Cymru drechu Bahrain trwy gic o'r smotyn hwyr i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn Nhwrnament Toulon.

Asgellwr Abertawe, Daniel James sgoriodd y gôl fuddugol yn y munudau olaf wedi trosedd arno gan Hamad Alshamsan, welodd ail gerdyn melyn am y dacl.

Bydd tîm Rob Page, wnaeth sicrhau gêm gyfartal gyda Ffrainc yn eu gêm agoriadol, yn wynebu'r Traeth Ifori ar 5 Mehefin yn eu gêm olaf yng Ngrŵp B.

Fe fydd y ddau dîm ar frig y grŵp yn cyrraedd y rownd gynderfynol.

Straeon perthnasol