Pwll nofio Aberdaugleddau i agor diolch i roddion

Pwll Aberdaugleddau Image copyright Jason Davies Photography

Bydd pwll nofio yn Sir Benfro, wnaeth golli ei nawdd, yn agor yn yr haf diolch i roddion.

Roedd dyfodol y pwll yn Aberdaugleddau yn ansicr wedi i'r cyngor sir bleidleisio i dorri ei nawdd blynyddol o £1,000.

Ond fe wnaeth clwb nos Astoria ac Eglwys Nantucket yn y dref roi rhodd o £1,000 i'w gadw ar agor eleni.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro y byddai'n gweithio gydag aelodau etholedig, y cyngor tref a'r gymuned i "sicrhau dyfodol disglair ar gyfer pwll y dref".

Dywedodd maer Aberdaugleddau, Colin Sharp bod y pwll "wastad wedi bod yn nodwedd bwysig yn Aberdaugleddau" ond bod ei ddyfodol yn parhau'n ansicr.