Cyngor 'ddim yn cefnogi ysgol Gymraeg'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cyngor 'ddim yn cefnogi ysgol Gymraeg yn fwriadol'

2 Mehefin 2017 Diweddarwyd 21:28 BST

Mae cyn-arolygydd ysgolion wedi cyhuddo Cyngor Wrecsam a'r consortiwm addysg lleol o beidio rhoi digon o gefnogaeth i unig ysgol uwchradd Gymraeg y sir.

Mae John Morris yn awgrymu nad ydyn nhw'n rhoi digon o arweiniad i Ysgol Morgan Llwyd yn fwriadol, er mwyn lleihau'r galw am addysg Gymraeg yn yr ardal.

Mae'r cyngor yn gwrthod yr honiad. Mwy ar y stori gan Dafydd Evans.