Rygbi Gogledd Cymru 19-88 Cymru

Tyler Morgan Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe wnaeth canolwr y Dreigiau, Tyler Morgan sgorio hatric ym Mharc Eirias nos Wener

Fe wnaeth Cymru baratoi ar gyfer Taith yr Haf trwy sgorio 14 cais wrth roi cweir i Rygbi Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.

Roedd Cymru'n gyfforddus yn fuan yn y gêm wrth i Ellis Jenkins a Cory Allen sgorio dau gais yr un.

Llwyddodd Tyler Morgan i'w rhoi ymhellach ar y blaen cyn i Afon Bagshaw ymateb i'r clwb o Uwch Gynghrair Cymru.

Ychwanegodd Morgan ei ail cyn i'r clwb o'r gogledd daro 'nôl unwaith eto trwy Tom Hughes.

Fe wnaeth y capten Jamie Roberts sgorio seithfed cais Cymru ac er i Evan Yardley ymateb i RGC, roedd Cymru wedi pasio 50 pwynt yn fuan wedi hynny wrth i Morgan gwblhau ei hatric.

Bu llu o newidiadau erbyn yr ail hanner, a'r eilydd Alex Cuthbert sgoriodd gais cyntaf yr ail gyfnod gyda'i gyffyrddiad cyntaf.

Gareth Anscombe, wnaeth gicio saith trosiad, sgoriodd 10fed cais Cymru cyn i Thomas Young sgorio, ac Allen gwblhau ei hatric ef.

Fe wnaeth Young a Cuthbert sgorio eu hail geisiau i gwblhau'r fuddugoliaeth.

Bydd Cymru'n herio Tonga ar 17 Mehefin, a Samoa wythnos yn ddiweddarach.