Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf

  • 2 Mehefin 2017
B4278 Image copyright Google

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar y B4278 yn Rhondda Cynon Taf.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta a Renault Kadjar ar y ffordd rhwng Penrhiwfer a Thonyrefail am tua 11:35 fore Gwener.

Bu farw'r dyn 25 oed oedd yn gyrru'r Fiesta.

Mae'r ddynes 43 oed oedd yn gyrru'r Renault, a'i merch tair oed, wedi eu cludo i'r ysbyty, ond dyw eu hanafiadau ddim yn rhai difrifol.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad, neu sut oedd y ceir yn gyrru cyn hynny, i gysylltu â'r llu.