Y Llewod yn crafu buddugoliaeth yn eu gêm gyntaf

  • 3 Mehefin 2017
Llewod Image copyright Rex Features
Image caption Alun Wyn Jones

Llwyddodd Y Llewod i sicrhau buddugoliaeth yn eu gêm gyntaf ar eu taith yn Seland Newydd, er nad oedd hi'n gêm hawdd.

Y Llewod roddodd y pwyntiau cyntaf ar y bwrdd gyda chic cosb gan Johnny Sexton.

O ran tiriogaeth a meddiant serch hynny, roedd Barbariaid y Taleithiau'n gryfach yn yr hanner cyntaf, ac wedi 22 munud, fe aeth y tîm ar y blaen gyda chais Sam Anderson-Heather, gafodd ei throsi gan Bryn Gatland.

7 i 3 oedd y sgôr ar y hanner.

Image copyright Rex Features
Image caption Anthony Watson yn sgorio cais gynta'r daith i'r Llewod

Daeth Greig Laidlaw â'r Llewod yn ôl o fewn pwynt gyda chic cosb a'r ddechrau'r ail hanner, cyn i Anthony Watson dirio'r bêl am unig gais y Llewod wedi 52 munud, gydag Owen Farrell yn llwyddiannus â'r trosiad.

Fe lwyddodd y Llewod i atal eu gwrthwynebwyr rhag sgorio'r un pwynt yn yr ail hanner, gan sicrhau buddugoliaeth yn y diwedd.

Fodd bynnag, bydd yn rhaid i'r garfan argyhoeddi'n llawer gwell yng ngemau nesa'r daith os am gael taith lwyddiannus.

Dywedodd Gohebydd Rygbi BBC Cymru, Gareth Charles: "Fe ddylai'r Llewod wneud lot yn well yn erbyn chwaraewyr sydd ddwy neu dair lefel yn îs na nhw.

"Yn anffodus gormod o gamgymeriadau, nerfusrwydd falle a diffyg amser paratoi gyda'i gilydd i weld yn amlwg."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Yn ôl gohebydd Rygbi BBC Cymru, Gareth Chrales "Fe ddylai Y Llewod wneud lot yn well"

Bydd eu gêm nesaf yn erbyn y Blues nos Fercher 7 Mehefin.