Ffordd yr A55 yn ail agor wedi 'digwyddiad heddlu'

Tagfeydd A55 Image copyright Neil Rylance
Image caption Roedd y tagfeydd tua'r dwyrain yn cyrraedd cyffordd 22, Hen Golwyn ac ar y ffordd tua'r gorllewin at gyffordd 28, Rhuallt.

Mae ffordd yr A55 wedi ail agor ar ôl i'r ffordd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych fod ar gau am oriau tra bod yr Heddlu yn ymateb i 'ddigwyddiad.'

Roedd cau'r ffordd wedi achosi milltiroedd o dagfeydd oedd yn cyrraedd cyffordd 22, Hen Golwyn ac ar y ffordd tua'r gorllewin at gyffordd 28, Rhuallt.

Roedd gyrwyr hefyd yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal, tra bod traffic yn cael ei ddargyfeirio.

Daeth cadarnhad gan yr Heddlu bod y digwyddiad wedi'i i ddatrys yn saff.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd, Alex Goss o Heddlu'r Gogledd: "rydym yn deall bod nifer o bobl wedi cael eu dal yn y tagfeydd, hoffwn ddiolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni ddatrys y sefyllfa."