Diffyg gweithgaredd Cymraeg i bobl ifanc medd Menter Iaith

Einir Sion

Mae yna ddiffyg gweithgareddau Cymraeg ar gyfer oedolion ifanc ar draws Cymru, yn ôl prif weithredwr menter iaith yn y de ddwyrain.

Gobaith Einir Siôn ydy cydweithio gyda'r Urdd a mudiadau eraill i gynnig mwy o gyfleoedd.

"Y dystiolaeth ydy bod 'na ddim digon o weithgareddau penodol i bobl ifanc," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

"Pan rydan ni'n mynd mewn i ysgolion i neud gwaith efo nhw, dydy'r wybodaeth ddim efo nhw am y cyfleoedd sydd ar ôl gadael ysgol.

'Diffyg pontio'

"Mae'n anodd mynd ar eu holau nhw. Mae nifer yn gadael yr ardal, maen nhw yn gadael y wlad hyd yn oed i fynd i'r brifysgol.

"Mae nifer yn aros ac yn gweithio mewn busnesau bach lleol neu fusnesau mawr lleol a dydy'r pontio yna jest ddim yn digwydd."

Yn ogystal â mwy o weithgareddau mae Einir Siôn, sydd yn arwain Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, yn dweud bod angen mwy o hyfforddiant yn yr iaith ac y dylai colegau addysg uwch fod yn darparu'r un nifer o gyrsiau yn y Gymraeg ac maent yn gwneud yn Saesneg.

Image caption Mae Einir Siôn yn dweud bod pobl Rhondda Cynon Taf yn gefnogol i'r Gymraeg

Oni bai bod pobl ifanc yn defnyddio'r iaith yn eu gwaith neu fel rhan o'u haddysg mae'n cael ei cholli, meddai.

Eleni mae Menter Rhondda Cynon Taf yn dathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu ar ôl Eisteddfod yr Urdd Taf Elai yn 1991.

Mae yna gariad at yr iaith yn yr ardal meddai ac mae'n credu bod y Rhondda, fel ardaloedd eraill y de ddwyrain gyda'r "potensial mwyaf am dwf yn y Gymraeg oherwydd mae Cymreictod ynghlwm â chalonnau pobl yma".

Ond mae'n rhybuddio na fydd Llywodraeth Cymru yn gallu cyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg oni bai bod mwy o gyllid yn cael ei roi i'r mentrau er mwyn gwneud y gwaith ar lawr gwlad.

Pedwar swyddog sydd yn cael eu hariannu gan y fenter yn y sir ar hyn o bryd.

'Cefnogaeth barhaus'

"Dydy hynny ddim yn mynd i gyrraedd llwyddiannau mawr. Does bwys pa mor galed 'da ni yn gweithio, does dim ots faint o waith partneriaethol 'da ni yn gwneud.

"Mae angen gwell buddsoddiad yn y maes defnydd iaith, defnydd iaith gymunedol, sydd tu hwnt i ddysgu sgil, sydd yn ymwneud ag ymwybyddiaeth iaith, sydd yn ymwneud â rhoi cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith, nid dim ond mewn boreau coffi.

"Dydy pawb ddim yn hoffi coffi a dydyn nhw ddim ar gael yn y boreau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn ddiweddar fe wnaeth y Gweinidog dros addysg Gymraeg gyhoeddi grantiau gwerth mwy 'na £4m ar gyfer sefydliadau fel Mentrau Iaith, sy'n dangos ein cefnogaeth barhaus i gefnogi rhaglenni sy'n cael eu targedu at gynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg ar hyd a lled Cymru.

"Mae hyn yn bwysig iawn mewn cymunedau ble mae llai o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r ysgol."