Llygaid-dyst i ymosodiad Llundain
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Profiad Cymro ynghanol ymosodiad Llundain

4 Mehefin 2017 Diweddarwyd 11:54 BST

Mae Cymro oedd mewn bwyty yn ardal Borough Market, Llundain wedi disgrifio fel y bu'n rhaid iddo ef a'i ffrindiau gloi eu hunain mewn tŷ bach am eu bod yn ofni am eu bywydau.

Dywedodd Gareth fod yr ymosodwr wedyn wedi dod mewn i'r adeilad gyda "chyllell mawr" yn ei law.

Mae saith o bobl wedi eu lladd yn yr ymosodiadau sy'n cael ei ddisgrifio gan yr heddlu fel "digwyddiadau terfysgol".