Rhybudd o law trwm mewn ardaloedd yng Nghymru

  • 5 Mehefin 2017
Glaw

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am law ar draws Cymru.

Bydd y glaw yn symud ar draws y wlad ddydd Llun ac fe fydd yn drwm mewn rhai ardaloedd.

Mae 'na bosibilrwydd y gallai hyd at 80mm ddisgyn gan achosi llifogydd yn lleol ac amodau gyrru anodd.

Mae'r rhybudd melyn, sydd yn golygu i fod "yn ymwybodol", yn ei le o 06:00 fore Llun tan yr un amser fore Mawrth.