Cyhuddo dyn 19 oed o lofruddiaeth yng Nghei Connah

Matthew James Cassidy

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn yng Nghei Connah yn Sir y Fflint yr wythnos ddiwetha'.

Bu farw Matthew James Cassidy, 19 o Lannau Mersi, yn y digwyddiad yng Nghei Connah ddydd Llun.

Fe fydd David John Woods, 19 oed o Lerpwl, yn ymddangos o flaen ynadon Yr Wyddgrug ddydd Llun.

Mae dau ddyn arall gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi cael eu rhyddhau.

Dywed yr heddlu fod yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw.