Taith Y Llewod: Owens yn gapten

ken owens

Ken Owens fydd capten y Llewod ar gyfer y gêm yn erbyn Gleision Auckland ddydd Mercher.

Mae pum Cymro yn y 15 sy'n dechrau sef Owens, Justin Tipuric, Rhys Webb, Dan Biggar a Leigh Halfpenny.

Mae Liam Williams wedi ei enwi ar y fainc.

Dywedodd y bachwr 30 oed, sy'n gyn ddisgybl Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin, fod y newyddion yn "anghredadwy".

"Pan ofynnodd Gats i mi neithiwr roedd o'n dipyn o sioc ond yn anrhydedd - a nes i ddim cymryd rhy hir cyn rhoi ateb.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Gareth Charles gohebydd chwaraeon BBC Cymru yn siarad o Auckland ar y Post Cyntaf

"Rwy'n meddwl bod angen datblygu rhai elfennau o ddydd Sadwrn a gwella rhywfaint ond mae yna lot o bethau positif i gymryd o'r gêm."

'Breuddwyd'

Dywedodd bod y tymor wedi bod fel "breuddwyd" ar ôl ennill y Pro12 gyda'r Scarlets, a nawr cael ei ddewis i arwain y Llewod.

"200 o gemau i'r Scarlets, 50 i Gymru, ennill y Pro12 a dod mas ar daith y Llewod i fod yn gapten, mae yn teimlo bach fel breuddwyd," meddai.

"Pan o' ni lan yn Waitangi ddoe oddi'n grêt tynnu mewn hanes a diwylliant y Maori, a hefyd o nhw'n bles i gael cyfle i glywed Robbie Henshaw yn siarad Gwyddeleg a fi'n siarad Cymraeg.

"Moment prowd i gael bod mewn rhywle mor hanesyddol a siarad y mamiaith."

Image copyright Rex Features
Image caption Fe wnaeth y Llewod drechu Barbariaid y Taleithiau yn eu gêm gyntaf ar y daith

Fe wnaeth y Llewod ennill eu gêm gyntaf ar y daith gan guro Barbariaid Taleithiol Seland Newydd 13-7 yn Whangarei.

"Mae angen creu momentwm a mae e' nawr yn 15 boi newydd yn cael dechrau gyda chyfle i roi llaw i fyny a chodi'r safon o wythnos i wythnos oherwydd mai dyna fydd angen i guro'r Crysau Duon," meddai.

Dywedodd y bachwr sydd wedi gwella ar ôl anaf fod hi wedi bod yn gyfnod anodd iddo yn bersonol cyn dechrau'r daith.

"Roedd e'n gyfnod nerfus iawn a phryder am 72 awr yn aros gyda fy nhroed yn cael ei orffwys gyda phecyn o rew.

"Ond mae'r bobl feddygol wedi gwneud gwaith gwych a dwi'n ddiolchgar i fod ar y daith ac yn edrych ymlaen at allu perfformio."

Y Tîm: L Halfpenny (Cymru), J Nowell (Lloegr), J Payne, R Henshaw (y ddau o Iwerddon), E Daly (Lloegr), D Biggar, R Webb (y ddau o Gymru), J McGrath (Ireland), K Owens (Cymru, capt), D Cole, M Itoje, C Lawes, J Haskell (i gyd o Loegr), J Tipuric (Cymru), CJ Stander (Iwerddon).

Eilyddion: R Best (Iwerddon), J Marler, K Sinckler (y ddau o Loegr), I Henderson, P O'Mahony (y ddau o Iwerddon), G Laidlaw (Alban ), J Sexton (Iwerddon), L Williams (Cymru).