Cyhoeddi enw dyn fu farw ger Y Fenni ar 1 Mehefin

Teyrnged Image copyright Llun teulu

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Y Fenni wythnos diwethaf.

Bu farw Peter Francis Goodridge yn dilyn gwrthdrawiad ger cylchfan ger yr afon yn Llan-ffwyst ar ddydd Iau 1 Mehefin.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty ond bu farw'n ddiweddarach.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu mewn datganiad, ei fod yn ffigwr anferth ym myd celf a chrefftau gweledol yng Nghymru:

"Fe wnaeth ei gwmni ArtWorks gludo celf drwy'r DU ac ar draws y byd. Fe fydd colled fawr ar ei ôl ymysg artistiaid, curaduron a thechnegwyr oedd wedi gweithio ag o.

"Mae'n gadael gwraig, Melanie Brown a'i blant Scarlett a Gregory. Roedd yn gawr o gymeriad, nid dim ond o achos ei daldra o chwe troedfedd, ond fe gysylltodd gyda chymaint o bobl, roedd yn caru'r hyn yr oedd yn ei wneud ac roedd yn rhan unigryw o fywydau cymaint o bobl. Bydd colled fawr ar ei ôl".