Chris Coleman yn cyhoeddi carfan derfynol Cymru

coleman Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi ei garfan o 23 i fynd i Serbia yr wythnos nesaf ar gyfer y gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.

Roedd carfan ymarfer o 26 wedi mynd i Bortiwgal dros yr wythnos ddiwethaf, ac mae Coleman wedi cwtogi rhywfaint ar hwnnw.

Ethan Ampadu, Marley Watkins a Declan John yw'r tri sydd ddim yn teithio, sy'n golygu fod y chwaraewyr ifanc disglair Harry Wilson a Ben Woodburn yn cadw'u lle.

Mae Gareth Bale a Neil Taylor wedi'u gwahardd o'r gêm, ac mae pump o'r garfan eto i ennill eu capiau cyntaf i'w gwlad, Joe Walsh, Tom Lockyer, Gethin Jones, Lee Evans a Ben Woodburn.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn drydydd yn eu grŵp ar ôl pum gêm, a hynny bedwar pwynt y tu ôl i Serbia a Gweriniaeth Iwerddon sy'n gyntaf ac ail.

Yn y gêm gyfatebol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd, fe gafwyd gêm gyfartal 1-1 gydag Aleksander Mitrovic yn sicrhau pwynt i'r ymwelwyr wedi i Bale sgorio dros Gymru.

Y garfan yn llawn yw:

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Dannny Ward (Lerpwl - ar fenthyg i Huddersfield Town), Owain Fôn Williams (Inverness Caledonian Thistle);

Ben Davies (Tottenham Hotspur), James Chester (Aston Villa), Joe Walsh (MK Dons), Chris Gunter (Reading), Jazz Richards (Caerdydd), Ashley Williams (Everton), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Gethin Jones (Everton);

Joe Allen (Stoke City), Dave Edwards (Wolverhampton Wanderers), Tom Lawrence (Leicester City), Emyr Huws (Caerdydd), Lee Evans (Wolverhampton Wanderers), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal);

Hal Robson-Kanu (West Bromwich Albion), Tom Bradshaw (Barnsley), Sam Vokes (Burnley), Harry Wilson (Lerpwl), Ben Woodburn (Lerpwl).