Cymru'n cofio dioddefwyr ymosodiad Llundain

Borough Market Image copyright PA
Image caption Cafodd sawl neges a blodau eu gadael ar safle ymosodiad ar Borough Market, Llundain

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal gan Lywodraeth Cymru, cyngorau ac amryw o sefydliadau eraill am 11:00 ddydd Mawrth i gofio am ddioddefwyr yr ymosodiad yn Llundain nos Sadwrn 3 Mehefin.

Bu farw saith o bobl yn yr ymosodiad a chafodd nifer eu hanafu.

Fe gafodd tri ymosodwr eu saethu'n farw gan yr heddlu wedi iddyn nhw yrru fan dros gerddwyr ar London Bridge cyn trywanu pobl ar safle Borough Market.

Mae grŵp IS wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Image caption Gweithwyr ambiwlans ym Men-y-bont ar Ogwr yn ymdawelu i gofio dioddefwyr Llundain
Image caption Aelodau Cynulliad a gweithwyr yn ymuno yn y tawelwch.
Image caption Ymunodd nifer o gynghorau yn y distawrwydd, fel y gweithwyr yma yng nghyngor Sir Conwy
Image caption Gweithwyr Heddlu Dyfed Powys yng Nghaerfyrddin
Image caption Ymunodd carfan y Llewod â'r tawelwch yn ystod sesiwn hyfforddi yn Seland Newydd

Straeon perthnasol