Cyhoeddi enw dynes wedi gwrthdrawiad angheuol Casnewydd

  • 6 Mehefin 2017
casnewydsd Image copyright Google

Cyhoeddodd Heddlu Gwent enw dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd Cas-gwent yng Nghasnewydd nos Lun 5 Mehefin.

Roedd Christine Rowe yn 70 oed ac yn byw yn ardal Casnewydd. Bu farw yn y fan a'r lle.

Mae swyddogion arbenigol yn cynorthwyo ei theulu.

Cafodd dyn 80 oed hefyd ei anafu yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd, sef fan Ford Transit a char Vauxhall Zafira, am tua 19:00.

Arestio dyn

Dywedodd yr heddlu bod dyn 34 oed wedi dianc o'r fan Ford Transit yn dilyn y gwrthdrawiad.

Cafodd ei arestio'n ddiweddarach ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn credu i'r fan fod mewn dau wrthdrawiad arall ychydig cyn y digwyddiad - un ar Ffordd Caerdydd a'r llall ar Heol George.

Maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 a dyfynu'r cyfeirnod 368 5/6/17.