Lladrata beics wedi cynyddu 57% yng Nghaerdydd

beics Image copyright Simon Nurse

Mae nifer y beiciau gafodd eu dwyn yng Nghaerdydd wedi codi 57% dros y bum mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Yn ôl ffigyrau Heddlu De Cymru roedd 1,373 achos o ladrata beiciau yn 2016, o'i gymharu â 872 yn 2012.

Daw hyn wrth i Gaerdydd geisio sicrhau statws fel un o'r dinasoedd gorau o ran darparu ar gyfer beicwyr.

Mae elusennau wedi galw am lefydd cadw mwy diogel, tra bod cyngor Caerdydd yn dweud y bydd Safle Trafnidiaeth newydd yn sicrhau 500 o lefydd parcio ar gyfer beiciau.

Daeth y ffigyrau i law y BBC ar ôl Cais Rhyddid Gwybodaeth.

1,736 yng nghanol y ddinas

Roedd y rhan fwyaf o achosion o ladrata - cyfanswm o 1,736 dros gyfnod o bum mlynedd - yng nghanol y ddinas.

Yn ardal Cathays cafodd 1,003 achos eu cofnodi a 664 ym Mae Caerdydd - eto dros gyfnod o bum mlynedd.

Ym mis Ionawr fe wnaeth cabinet Cyngor Caerdydd gefnogi strategaeth i berswadio hanner y rhai sy'n teithio i Gaerdydd i roi'r gorau i ddefnyddio eu ceir erbyn 2021.

Image copyright Sustrans Cymru

Dywedodd Kevin Rhaman-Daultery o elusen Cardiff Pedal Power eu bod yn cefnogi strategaeth y cyngor o wella rhwydwaith beicio'r ddinas, ond y dylai mwy gael ei wneud i geisio rhwystro lladron yn y lle cyntaf.

"Yn nhermau llefydd cadw diogel, mae'n rhywbeth a bod yn onest nad yw'r cyngor wedi ei drafod fel rhan o'u cynlluniau," meddai.

"Fe ddylid ystyried sut y gallai busnesau a lleoliadau eraill ddarparu llefydd cadw diogel ar gyfer gweithwyr a thrigolion y ddinas."

Llefydd diogel

Dywed y cyngor fod y cynnydd mewn lladrata wedi dod wrth i'r niferoedd sy'n defnyddio beics gynyddu.

"Mae darparu llefydd parcio ar gyfer beics yn rhywbeth sy'n ofynnol o ran unrhyw ddatblygiadau newydd yn y ddinas, ac mewn achosion lle mae beics yn debygol o gael eu parcio am gyfnodau hir bydd hynny'n golygu llefydd diogel," meddai'r llefarydd.

"Fe fydd y Ganolfan Drafnidiaeth newydd yng nghanol y ddinas yn darparu 500 o lefydd diogel ar gyfer y cyhoedd."

Ychwanegodd y llefarydd mai bach iawn oedd y cyngor yn gallu ei wneud i rwystro lladron rhag dwyn o dai, ac roedd yn annog perchnogion i sicrhau bod beiciau wedi eu cloi a'u cofrestru.

Gwnaed cais i Heddlu De Cymru am sylw.

Straeon perthnasol