Angladd yr ymgyrchydd canser, Irfon Williams ym Mangor

Angladd
Image caption Roedd y seremoni yn ddathliad o fywyd Irfon Williams

Mae angladd yr ymgyrchydd canser Irfon Williams wedi ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Bangor ddydd Mercher.

Roedd yr eglwys yn llawn, gyda channoedd hefyd yn gwylio ar sgrin y tu allan.

Bu farw Mr Williams yn 46 oed fis diwethaf. Mae'n gadael ei wraig, Becky, a phump o blant.

Roedd Mr Williams, sylfaenydd ymgyrch Hawl I Fyw, yn wyneb a llais cyfarwydd yng Nghymru ers iddo gael diagnosis o ganser y coluddyn ym mis Ionawr 2014.

Fe gafodd ei achos sylw yn ystod un o sesiynau holi'r Prif Weinidog yn San Steffan, wrth i wleidyddion drafod yr hawl i gleifion dderbyn y cyffur Cetuximab yng Nghymru.

'Arwr'

Image caption Roedd cannoedd o bobl y tu allan i'r eglwys yn gwylio'r seremoni

Clywodd y dorf bod Mr Williams am i'r digwyddiad fod yn ddathliad o'i fywyd, ac roedd perfformiadau gan Gôr Glanaethwy a'r tenor Rhys Meirion.

Fe wnaeth cyfaill i Mr Williams, y chwaraewr rygbi Robin McBryde, ddarllen yn y gwasanaeth.

Wrth arwain y gwasanaeth, dywedodd Deon Bangor, y Tra Pharchedicaf Kathy Jones nad oedd Mr Williams wedi "bwriadu bod yn arwr... ond dyna oedd o".

Ychwanegodd ei gyfaill, Gary: "Roedd Irfon yn un o'r bobl mwyaf doniol oeddwn i'n 'nabod.

"Hyd yn oed pan oedd yn sal iawn roedd yn dal i wneud i mi chwerthin."

Straeon perthnasol