Pleidiau yn trafod cyllid i Gymru
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pleidiau yn trafod cyllid Cymru

6 Mehefin 2017 Diweddarwyd 21:26 BST

Ddeuddydd cyn y diwrnod pleidleisio ar 8 Mehefin mae'r pleidiau gwleidyddol wedi bod yn trafod sut fydd Cymru'n cael ei hariannu yn y dyfodol.

Yn ôl y prif weinidog Theresa May, oedd ar ymweliad gydag etholaeth De Clwyd, mae rhwyg yn rhengoedd Llafur ynglŷn â'r dull ariannu.

Mae prif weinidog Cymru Carwyn Jones yn dweud y bydd Fformiwla Barnett yn diflannu a threfn newydd yn cael ei chyflwyno.

Ond mae llefarydd ar ran y Blaid Lafur yn ganolog wedi gwadu hynny.

Adroddiad Aled ap Dafydd.