Dyn yn y llys wedi gwrthdrawiad angheuol Casnewydd

Christine Rowe Image copyright Heddlu Gwent
Image caption Bu farw Christine Rowe yn y fan a'r lle wedi'r digwyddiad

Mae dyn 34 oed wedi ymddangos o flaen llys wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yng Nghasnewydd.

Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd Heddlu Gwent enw dynes fu farw yn y gwrthdrawiad ar Ffordd Cas-gwent yn y ddinas nos Lun.

Roedd Christine Rowe yn 70 oed ac yn byw yn ardal Casnewydd. Bu farw yn y fan a'r lle.

Cafodd gŵr Mrs Rowe, Brian sy'n 80 oed, hefyd ei anafu yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd, fan Ford Transit a char Vauxhall Zafira, am tua 19:00.

Mae Ryan Reardon, 34 oed o Oakdale ger y Coed Duon, hefyd wedi'i gyhuddo o achosi anafiadau i Mr Rowe ac am beidio stopio ar ôl damwain.

Cafodd Mr Reardon ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd ar 5 Mehefin.

Mae swyddogion arbenigol yn cynorthwyo ei theulu, sydd wedi disgrifio Ms Rowe fel: "Gwraig, mam a nain gariadus, a fydd yn golled fawr i bawb."

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn credu i'r fan fod mewn dau wrthdrawiad arall ychydig cyn y digwyddiad - un ar Ffordd Caerdydd a'r llall ar Heol George.

Maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 a rhoi'r cyfeirnod 368 5/6/17.