Pryder am ddyfodol Corau Meibion Cymru

Côr Pendyrrus

Mae bron i hanner corau meibion Cymru yn pryderu am eu dyfodol, yn ôl arolwg gan BBC Cymru.

Fe gafodd holiadur ei anfon at 116 aelod o Gymdeithas Corau Meibion Cymru a'r gymdeithas yn y gogledd, gyda 102 yn ymateb.

Dywedodd 46 o bobl eu bod yn poeni am y dyfodol, a dywedodd 50 bod llai o aelodau yn y côr heddiw o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.

Dywedodd yr hanesydd, yr Athro Gareth Williams, fod corau meibion wedi cael "cymysgedd o ran lwc", ond bod llawer wedi addasu gan "greu sŵn da gyda llai o leisiau".

Yn yr arolwg, fe ofynnwyd i aelodau o'r cymdeithasau am nifer eu haelodaeth nawr, 10 mlynedd yn ôl a phan oedd y niferoedd ar ei uchaf.

Yn ychwanegol, fe ofynnwyd i naill ai'r cadeirydd, ysgrifennydd neu swyddog arall a oedden nhw'n pryderu am y dyfodol.

Image caption Mae'r Athro Gareth Williams yn awdur llyfr 'Do you hear the people sing?' am Gorau Meibion yng Nghymru.

Roedd y darlun yn gymysglyd dros Gymru, ond dywedodd y rhan fwyaf bod recriwtio aelodau ifanc neu newydd yn sialens gan fod cyfartaledd oedran aelodau corau yn cynyddu.

Dywedodd eraill mai'r sialens yw addasu i repertoire o ganeuon er mwyn denu cynulleidfa newydd ond drwy gadw at ganu emynau traddodiadol.

Canlyniadau yr arolwg:

  • Nifer yn pryderu - 46
  • Nifer ddim yn pryderu - 56
  • Cyfanswm aelodaeth - 4294
  • Cyfanswm aelodaeth 10 mlynedd yn ôl - 4542
  • Cyfanswm aelodaeth ar ei uchaf - 6972
  • Ymatebion - 102
  • Cais am ymateb - 116
  • Graddfa ymateb - 87.93%
  • Niferoedd â llai o aelodau na 10 mlynedd yn ôl - 50.

Gareth Williams yw awdur 'Do you hear the people sing?' am gorau meibion yng Nghymru.

"Mewn sawl ffordd, mae'n farometer o iechyd economaidd Cymru," meddai.

"Pan ydych yn edrych ar y cyfnod o ffyniant aruthrol cyn y rhyfel byd cyntaf, y dirwasgiad yn yr '20au a'r '30au pan fu farw nifer o bobl yng Nghymru - fe gafodd nifer o gorau eu heffeithio.

"Hyd yn oed heddiw, mewn cyfnod ôl diwydiannol, mae pobl wedi gweld corau yn newid i sefyllfaoedd gwahanol, ond maen nhw dal yma.

"Dwi'n rhagweld nad ydyn nhw wedi wynebu sialensiau tebyg i'r rhain sy'n digwydd nawr - mae nifer yn pryderu am recriwtio gwaed newydd," meddai

'Trend iach'

Mae'r Athro Williams yn aelod o Gôr Meibion Pendyrys yn y Rhondda a dywedodd bod canlyniadau'r arolwg yn dangos trend iach o gorau sydd ddim yn hunanfodlon.

"Dwi'n cofio nifer o gorau gwych gyda 70 - 80 o aelodau yn y 1970au sydd bellach â hanner yn nifer yr aelodau.

"Tydi hynny ddim yn golygu eu bod yn waeth o ran safon - maen nhw'n cadw'r safon ond yn colli'r aelodau.

"Mae'n sicr yn is ar gyfer corau sydd wedi eu lleoli mewn ardaloedd ble mae llai o gyfleoedd economaidd," meddai.

Image caption Dywedodd cadeirydd côr Ystrad Mynach, John Knight bod aelodaeth y côr hanner yn llai na beth oedd ugain mlynedd yn ôl.

Dywedodd cadeirydd côr Ystrad Mynach, John Knight bod aelodaeth y côr hanner yn llai na beth oedd 20 mlynedd yn ôl.

"Mae'r grŵp yn benderfynol o recriwtio aelodau newydd - maen nhw wedi postio 2,000 o daflenni drwy ddrysau pobl a rhoi posteri fyny gan gynnwys symud ymarferion y côr i wahanol leoliadau yn y dref.

"Mae rhai pobl yn dweud y dylai chi roi gorau iddi wrth gyrraedd sefyllfa debyg i hyn, ond tydw i ddim yn cydweld a hynny.

"Dwi'n credu ein bod ni dal yn creu sŵn da am gôr mor fychain.

"Mae rhai sydd mewn oed ddim am symud i unrhyw le arall, mi fasen nhw'n eistedd gartref yn gwylio teledu, ond maen nhw'n codi pob nos Lun ac Iau - mae'n rhywle iddyn nhw fynd a rhywbeth i'w wneud," meddai.