Bywyd dau begwn

Gwen pan yn ferch ifanc
Image caption Gwen pan yn ferch ifanc

Mae mawr angen siarad yn fwy am anhwylder deubegwn ('bipolar disorder'), yn ôl un fenyw o Gwmbrân.

"Mae'n syndod i fi fy mod i'n dal i fod yn fyw, gyda rhai o'r eithafion isel dwi wedi eu profi," meddai Gwen Goddard, 30.

"Bues i'n [hunan anafu] am flynyddoedd, fel ffordd o ymdopi, cyn i fi allu dysgu dulliau ymdopi mwy iachus.

"Mae mor bwysig i nodi mai myth yw'r syniad fod pawb yn anafu eu hunain er mwyn cael sylw.

"Ro'n i'n ei wneud mewn mannau lle nad oedd neb yn gallu eu gweld. Do'n i ddim eisiau i bobl wybod am y peth. Ceisio ymdopi oeddwn i."

Ond yn bendant, y peth gwaethaf iddi hi, wrth iddi fyw gydag anhwylder deubegwn, yw'r meddyliau cyson yn ei hannog i derfynu ei bywyd.

"Mae'r teimladau hunan laddol yn ymwthiol ac yn ddi-baid ar adegau," meddai.

Popeth i'r eithaf

Yr unig wahaniaeth rhwng iselder ac anhwylder deubegwn, meddai Gwen, yw'r eithafion uchel. Ac weithiau, mae mynd i'r uchelfannau hynny'n gallu bod yn beryglus.

"Mae'n gallu hala fi i fod yn fyrbwyll iawn. Mae popeth yn cynyddu i fod yn onest: tymer, cyffro, creadigrwydd, cyflymder gweithio/prosesu pethau, ysfa rywiol.

"Mae'n gallu bod yn beryglus wrth ystyried fod pob elfen yn digwydd ar yr un pryd. Mae fel bod popeth yn amplified, yn wefreiddiol heb wifren ddaear," meddai.

Yn ei harddegau hwyr y gwnaeth hi sylwi nad oedd hi cweit yn iawn, meddai.

"Y fflag goch gyntaf oedd yr iselder; doeddwn i, fy ffrindiau, na fy nheulu'n deall llawer ynglŷn â phenodau 'uchel' sy'n mynd gydag anhwylder deubegwn ar y pryd, felly doedden ni ddim wedi sylweddoli fy mod i'n cael cyfnodau fel hynny.

"Roedden ni'n meddwl fy mod i jyst yn hapus neu'n gyffrous weithiau - sydd hefyd yn fy natur - uchel fy ysbryd, fel petai, er bach yn wyllt weithiau.

"Ges i ddim diagnosis iawn nes i mi fod yn tua 25 mlwydd oed ar ôl sawl blwyddyn o ddioddef cylchredau'r salwch."

Lan a lawr

Pan nad yw ei hwyliau'n saethu drwy'r to, mae'r isel fannau yn cyrraedd, a'r pwll du yn ddiwaelod.

"Sa i'n canolbwyntio, does dim chwant arnai i weld unrhyw un, dwi'n ddagreuol, yn ddiobaith," meddai.

"Does dim egni na chymhelliant gyda fi i wneud y swydd dwi mor angerddol amdani. Does dim hyd yn oed cymhelliant gyda fi i fwyta, gwisgo, na brwsio fy nannedd hyd yn oed."

Yn y cyfnodau yma, mae euogrwydd yn beth mawr, meddai, ac mae'n teimlo fel ei bod hi'n "faich" ar ei theulu a'i ffrindiau.

"Hebddyn nhw, fyswn i ddim yn bwyta, a byddai fy nhŷ yn domen sbwriel a fyswn i ddim yn gadael o gwbl," meddai.

'Di-ofal'

Mae anhwylder deubegwn yn golygu diffyg egni, diffyg canolbwyntio, methu cysgu neu or-gysgu, teimlo'n ddigalon, drist, heb obaith, yn ddi-werth, yn euog, teimlo poen yn gorfforol heb reswm, colli archwaeth, a gor-fwyta.

"Wrth ddioddef o bennod uchel - a dioddef yw'r gair cywir, yn wir - mae unigolion yn gallu teimlo'n anorchfygol," meddai Gwen.

"Maen nhw'n gallu ymddangos i fod yn drahaus dros ben, yn or-hyderus, yn hapus iawn, weithiau'n gymdeithasol dros ben, sy'n gallu arwain at sefyllfaoedd peryglus weithiau, gyda dim ymwybyddiaeth na gofal dros eu diogelwch na'u lles - yn bersonol, yn broffesiynol, yn ariannol, neu'n gymdeithasol.

"Wedyn mae'r diffyg cysgu, anghofio bwyta neu ddiffyg archwaeth yn gyffredinol, meddwl yn gyflym dros ben - sy'n gallu bod yn drallodus."

'Does neb yn imiwn'

"Does dim digon yn cael ei wneud o gwbl, ond yn anffodus bai ar lywodraeth a chyllid ydy hynny," meddai Gwen.

Pam fod yna dal cymaint o stigma o gwmpas? Pam fod yna dal gymaint o ddiffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl yn gyffredinol? Pam fod rhaid i unigolion aros am fisoedd er mwyn cael gweld rhywun ynglŷn â'u problemau, ac wedyn weithiau misoedd arall ar ben hynny cyn gweld unrhyw un am driniaeth?

"Heb sôn am y nifer sydd yn ei gweld hi'n anodd trafod eu problemau trwy gyfrwng y Saesneg. Os ydyn nhw eisiau gweld rhywun trwy gyfrwng y Gymraeg, ry'n ni'n sôn am fwy o amser aros eto," meddai.

"Mae hyn yn ystod adeg lle nad ydy llawer o'r bobl sy'n dioddef yn teimlo'n ddigon cryf i frwydro, i fynnu gwasanaethau'n gyflymach neu yn y Gymraeg. Dyw'r sefyllfa ddim yn ddigon da."

Image caption Gwen pan yn blentyn

Mae'n hynod o bwysig codi ymwybyddiaeth, meddai, er mwyn taflu goleuni ar frwydrau pawb.

"Yn anffodus, gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un ohonom ni ar unrhyw adeg. Does neb yn imiwn.

"Fel rheol does dim cyhoeddiad; dim rhybudd - mae'n anodd iawn i weld yr arwyddion cyn i ni fod o fewn y salwch yn barod. Mae'n llechwraidd."

Mae Gwen yn gweithio i elusen Training in Mind, ac yn darparu hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar draws Cymru.

"Mae'n hyfforddiant sy'n helpu ar sawl lefel: sut i helpu eich hunain; sut i helpu eraill; gwybodaeth ynglŷn â'r problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin (e.e. iselder, gor-bryder, panig, anhwylder deubegwn, a sgitsoffrenia) ac ry'n ni'n gweld galw am hyn ar lefel gymunedol yn ogystal â chorfforaethol - sy'n dangos faint o bobl ac sy'n cael eu heffeithio," meddai.

Image caption Mae Gwen yn annog pobl i siarad am eu problemau yn rhinwedd ei swydd

"Ers 1981, mae wedi bod yn hanfodol i gael trefniadau Cymorth Cyntaf yn y gweithle - pam y dylai fod yn wahanol ar gyfer Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl?

"Gydag un o bob pedwar o leiaf yn dioddef o broblem iechyd meddwl yn ystod eu bywydau ac iselder wedi ei gyhoeddi fel y baich ariannol mwyaf yn y byd yn gynharach yn y flwyddyn, mae'n bwysig i ni ddeall y broblem yn fwy fel cydweithfa ar draws y boblogaeth. Mae'n epidemig."

Ceisio deall, a siarad

Y peth gorau i wneud os ydych yn dioddef o anhwylder deubegwn, yn ôl Gwen, yw dod i nabod natur y salwch.

"Mae'n bosib (ac yn bwysig) i ymchwilio ar y we ac wrth ddarllen llyfrau, ond i fod yn ymwybodol bod rhai ffynonellau'n gallu bod yn annibynadwy, yn enwedig rhai stwff sy'n cael eu rhannu ar Facebook," meddai.

"Mae llawer o'r ymwybyddiaeth ddyfnach yn dod o brofi'r salwch, yn anffodus, ond y mwy 'dych chi'n dod i ddeall natur y salwch, y mwy o arfau y medrwch eu casglu er mwyn brwydro trwyddo.

"Mae'n bwysig hefyd i beidio ofni dweud wrth rywun - pwy bynnag rydych yn ymddiried ynddyn nhw: ffrind agos, teulu neu feddyg - pan yr ydych yn teimlo'ch hun yn mynd yn sâl.

"Dyw hi ddim yn amlwg i ni ein hunain weithiau, ond os rydym yn profi trafferth, mae'n bwysig i gyfathrebu hynny."

Stori: Llinos Dafydd