Rhanbarthau Cymru'n darganfod eu gwrthwynebwyr yn Ewrop

  • 8 Mehefin 2017
Saracens, Brad Barritt Image copyright Getty Images
Image caption Saracens, fydd yng ngrŵp y Gweilch yng nghystadleuaeth 2017/18, oedd enillwyr Cwpan Pencampwyr Ewrop eleni

Mae rhanbarthau rygbi Cymru wedi darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng nghwpanau Ewrop y tymor nesaf.

Yng Nghwpan y Pencampwyr bydd y Scarlets, pencampwyr y Pro12 eleni, yn herio Toulon, a gollodd yn rownd derfynol cynghrair Top 14 Ffrainc y penwythnos diwethaf.

Y ddau dîm arall yng Ngrŵp 5 fydd Caerfaddon a Treviso.

Yng Ngrŵp 3, bydd y Gweilch yn wynebu pencampwyr Ewrop, Saracens, a phencampwyr y Top 14, Clermont, yn ogystal â Northampton.

Yn y Cwpan Her, mae'r Gleision wedi cael eu dewis yng Ngrŵp 2 gyda Sale, Lyon a Toulouse.

Bydd y Dreigiau yng Ngrŵp 1 ochr yn ochr â Newcastle, Bordeaux, ac Enisei-STM o Rwsia.

Fe fydd y ddwy gystadleuaeth yn dechrau ym mis Hydref, gyda'r rowndiau terfynol yn cael eu chwarae yn Stadiwm San Mames, Bilbao ym mis Mai 2018.