Sut mae ennill Coron neu Gadair yr Eisteddfod?

Ddydd Llun a dydd Gwener yr Eisteddfod, am 4.30pm, bydd y Pafiliwn dan ei sang - gyda phawb yn heidio i weld pwy fydd yn ennill dwy brif wobr y Brifwyl - y Goron ddechrau'r wythnos, a'r Gadair ddiwedd yr wythnos.

Ond ydych chi'n gwybod beth yn union yw arwyddocâd y gwobrau hyn, a beth sydd yn rhaid i'r prifeirdd ei wneud er mwyn bod â siawns o ennill y tlws, y parch a'r bri?

Bu Cymru Fyw yn sgwrsio gyda Mererid Hopwood, yn un o'r beirdd prin hynny sy'n gallu brolio eu bod nhw wedi ennill y ddwbl Eisteddfodol, sef y Goron a'r Gadair.

Dwy wobr

Mererid oedd y ferch gyntaf i ennill y Gadair, a hynny yn Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau yn 2001, a dwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd y Goron yn Eisteddfod Meifod.

"Wrth gwrs, mae'r ddwy wobr yn arbennig iawn i mi, ac efallai bod ychydig o flas 'gwyn y gwêl' ar fy ateb, ond dwi'n credu bod y goron a'r gadair sydd gen i'n hardd tu hwnt. Gwaith Chris Hilling yw'r gadair a John Price yw gof y goron, ac mae'r naill fel y llall yn dweud ei stori ei hunan.

"Mae pobl yn aml yn holi pa mor hir gymerodd y cerddi i'w hysgrifennu, sy'n eithaf anodd i'w ateb am fod y syniadau a'r llinellau'n rhyw fyw yn eich meddwl chi siŵr o fod am sbel cyn i chi roi pen ar bapur, ond fy nghof i yw bod y bryddest wedi dod yn llawer cynt na'r awdl. Mae gofynion pendant cystadleuaeth y Gadair yn gofyn i chi wirio llinellau er mwyn sicrhau eu bod nhw i gyd 'mewn cynghanedd gyflawn'… a gall fod un llythyren yn bwrw'r llinell gyfan mas.

"Mae'r ffaith fod rhaid medru cynganeddu cyn gallu rhoi tro ar ennill y Gadair yn gallu ei gwneud hi'n anoddach i'w hennill ar un olwg, ond wedyn, fel arfer, mae mwy yn ymgeisio am y Goron. Ac wedyn, ydy'ch cân chi'n digwydd cyd-fynd â chwaeth y beirniad, neu beth yw ansawdd y rhai eraill sydd yn y ras? Doed a ddêl, mae angen dogn o lwc yn y ddwy gystadleuaeth!"

Y Gadair

  • Mae Cadair yr Eisteddfod yn cael ei rhoi i'r bardd sy'n cyfansoddi'r awdl orau, sef cerdd, neu gasgliad o gerddi, mewn cynghanedd gyflawn, ar destun sy'n cael ei osod gan yr Eisteddfod.
  • Mae tystiolaeth fod yr arfer o gadeirio beirdd wedi digwydd cyn belled yn ôl â chyfnod Hywel Dda yn y 10fed ganrif. Enw'r prif fardd oedd pencerdd, ac roedd yn ennill cadair yn llys y brenin am ei farddoniaeth.
  • Er fod eisteddfodau wedi eu cynnal dros y canrifoedd nesaf, yn 1861 y dechreuodd yr Eisteddfod Genedlaethol fodern, a hynny yn Aberdâr. Enillydd y Gadair y flwyddyn honno oedd y Parch Morris Williams (Nicander) am ei awdl ar y testun 'Cenedl y Cymry'.
Image copyright Amgueddfa Cymru
Image caption Cafodd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1933 ei gwneud gan wneuthurwyr o Shanghai
  • Eleni rydyn ni'n cofio canrif ers Eisteddfod y Gadair Ddu, pan fu farw'r bardd buddugol, Hedd Wyn, cyn iddo gael gwybod ei fod wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod Penbedw. Digwyddodd sefyllfa debyg yn Eisteddfod Wrecsam yn 1876 hefyd, pan fu farw Thomas Jones (Taliesin o Eifion) ychydig wythnosau cyn y seremoni. Cafodd y gadair ei gorchuddio â defnydd du.
  • Aneirin Karadog enillodd y Gadair yn Eisteddfod 2016 yn Y Fenni am ddilyniant o gerddi ar y testun 'Ffiniau'.
  • Eleni, testun yr awdl yw 'Arwr neu Arwres'. Bydd y prifardd yn ennill cadair hardd a gafodd ei gwneud gan y saer o Ysbyty Ifan, Rhodri Owen.
Image copyright Eisteddfod genedlaethol cymru

Y Goron

  • Mae Coron yn cael ei rhoi am y gerdd neu gasgliad o gerddi gorau yn y dull rhydd - hynny yw, nid oes cynghanedd iddi.
  • Fodd bynnag, yn ôl rheolau'r Eisteddfod, "caniateir cynnwys ambell i linell ddamweiniol neu anfwriadol gynganeddol mewn gwaith a anfonir i gystadleuaeth y Goron".
  • Er fod y Gadair wedi cael ei gwobrwyo i gerddi caeth ers 1861, nid oedd gwobr debyg i gerddi rhydd - rhywbeth a oedd yn corddi nifer o feirdd. Roedd rhai'n dadlau y dylai'r Gadair gael ei gwobrwyo am y gerdd orau - boed hynny'n awdl gaeth NEU bryddest rydd. Yn dilyn llawer o drafod a dadlau, cafodd cyhoeddiad ei wneud yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1867 bod gwobr newydd am gael ei chreu am y bryddest orau, ac y byddai'r bardd yn un 'coronog'.
Image copyright Canolfan Peniarth
Image caption Dilys Cadwaladr oedd y ferch gyntaf i ennill y Goron, a hynny yn Y Rhyl yn 1951
  • Enillydd cyntaf y gystadleuaeth honno oedd Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) am ei bryddest ar 'Elias y Thesbiad' yn Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun yn 1868. Enillodd £20 a medal gwerth £15 gan nad oedd penderfyniad clir wedi cael ei wneud ynglŷn â sut beth yn union fyddai 'urdd goronog'.
  • Ond yn ôl rhai, Hwfa Môn oedd enillydd cynta'r goron, gyda'i bryddest fuddugol am Owain Glyndŵr yn Eisteddfod 1867. Gellir dadlau fod hyn yn wir, gan iddo ennill y gystadleuaeth hon y dydd ar ôl i'r cyhoeddiad gael ei wneud am sefydlu cystadleuaeth y goron!
  • Elinor Gwyn enillodd Goron Eisteddfod Sir Fynwy yn 2016 am gyfansoddi casgliad o gerddi ar y testun 'Llwybrau'.
  • Yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, roedd rhaid i gystadleuwyr ysgrifennu pryddest ar y testun 'Trwy Ddrych' am siawns o ennill y Goron hardd gafodd ei gwneud gan John Price.
Image copyright Eisteddfod genedlaethol cymru