Robson-Kanu allan o garfan Cymru ar gyfer gêm Serbia

Hal Robson-Kanu Image copyright Getty Images

Hal Robson-Kanu yw'r diweddaraf i dynnu'n ôl o garfan Cymru ar gyfer y gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Serbia ym Melgrade nos Sul.

Mae'r ymosodwr 28 oed, sy'n chwarae i glwb West Bromwich Albion, wedi bod yn cael trafferthion gydag anaf i'w goes.

Bydd chwaraewr 17 oed Abertawe, Daniel James, sydd eto i ennill cap dros ei wlad yn cymryd lle Robson-Kanu.

Mae Ben Woodburn o Lerpwl eisoes wedi tynnu allan o'r daith i oherwydd anaf i'w goes, gyda'r chwaraewr canol cae Marley Watkins, yn cymryd ei le.

Y garfan ddiweddaraf:

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Dannny Ward (Lerpwl - ar fenthyg i Huddersfield Town), Owain Fôn Williams (Inverness Caledonian Thistle);

Ben Davies (Tottenham Hotspur), James Chester (Aston Villa), Joe Walsh (MK Dons), Chris Gunter (Reading), Jazz Richards (Caerdydd), Ashley Williams (Everton), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Gethin Jones (Everton);

Joe Allen (Stoke City), Dave Edwards (Wolverhampton Wanderers), Tom Lawrence (Leicester City), Emyr Huws (Caerdydd), Lee Evans (Wolverhampton Wanderers), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal);

Tom Bradshaw (Barnsley), Sam Vokes (Burnley), Harry Wilson (Lerpwl), Marley Watkins (Norwich), Daniel James (Abertawe).