Crusaders 3-12 Llewod

  • 10 Mehefin 2017
llewod Image copyright Getty Images
Image caption Roedd y blaenwyr, dan arweiniad Alun Wyn Jones yn ganolog ym mherfformiad y Llewod

Mae'r Llewod wedi ennill eu hail gêm o dair, ar eu taith i Seland Newydd eleni, a hynny yn dilyn perfformiad cadarn yn Christchurch fore Sadwrn.

Mae'n deg dweud fod Warren Gatland wedi dechrau'r gêm gyda'i dîm cryfaf o'r gyfres hyd yma, ac fe gafwyd perfformiad tynn a phrin oedd y cyfleoedd i'r ddau dîm.

Y Sais, Owen Farrell oedd yn gyfrifol am holl bwyntiau'r Llewod, wrth iddo lwyddo trosi pedair o bum ymgais rhwng y pyst.

Richie Mo giciodd unig sgôr y Crusaders.

Roedd yn rhaid i Jonathan Davies adael y cae wedi iddo ddioddef ergyd i'w ben mewn tacl, ac roedd yn rhaid i Stuart Hogg gamu i'r neilltu, wedi iddo gael penelin yn ei wyneb.

Fe gollodd y Llewod yn erbyn y tîm gwanaf o'r gyfres, y Blues, fore Iau, ac mae'r fuddugoliaeth ddydd Sadwrn yn arwyddocaol gan fod y Crusaders yn cael eu hystyried fel y tîm gorau yn y rhanbarth.

Roedd y Crusaders wedi mynd 14 gêm o'r bron heb golli gartref.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Liam Williams argraff yn y gêm ddydd Sadwrn

Wrth siarad ar Sky Sports ar ôl y gêm, dywedodd y capten, Alun Wyn Jones:

"Fe gawsom ni dipyn o doriadau yn y llinell, ac unwaith eto, doedden ni ddim yn eu gorffen i ffwrdd.

"Roedda ni'n gwybod fod yn rhaid i ni wneud gystal â nhw ar y set pieces.

"Mae'na dal le i ni weithio ar rai pethau, ond ar y cyfan, roedd yn berfformiad dipyn gwell na'r gêm ddiwethaf."

'Ddim yn hapus'

Dywedodd capten y Crusaders, Sam Whitelock:

"Fe ddaru nhw ein gwasgu ni, a chael y tri phwynt hawdd ar y dechrau, ac wedyn mi fuo ni yn ceisio dal i fyny ers hynny.

"Tyda ni ddim yn hapus gyda'r ffordd y gwnaethom ni chwarae. Ond mae bechgyn y Llewod yn haeddu'r clod am lwyddo i'n hatal rhag dod i rythm wrth chwarae."

Fe fydd y Llewod yn chwarae'r Highlanders ddydd Mawrth.

Image copyright PA
Image caption Roedd yn rhaid i Jonathan Davies adael y cae wedi iddo ddioddef ergyd i'w ben mewn tacl