Tanio ergydion i ddathlu pen blwydd Dug Caeredin yn 96

canon Image copyright Catrawd 160

Mae ergydion o wn mawr wedi eu tanio yng Nghaerdydd i ddathlu pen blwydd y Tywysog Philip.

Roedd milwyr o'r Gatrawd Gymreig yn bresennol yn y seremoni tu allan i Neuadd y Ddinas ddydd Sadwrn, wrth i Ddug Caeredin ddathlu ei ben blwydd yn 96.

Roedd Mrs Morfudd Ann Meredith, Arglwyddes Raglaw De Morgannwg, yn bresennol i dderbyn y saliwt.

Bydd digwyddiad tebyg yn cael ei gynnal ym Mae Caerdydd, tu allan i adeilad y Pierhead, i ddathlu pen blwydd y Frenhines yn swyddogol ddydd Sadwrn nesaf.

Image copyright Catrawd 160
Image copyright Catrawd 106
Image caption Roedd gafr y gatrawd, Llywelyn, yn bresennol
Image copyright Catrawd 106
Image caption Roedd Mrs Morfudd Ann Meredith, Arglwyddes Raglaw De Morgannwg, yn bresennol i dderbyn y saliwt