Y Llewod: Warburton yn ôl ond dim gêm i Jonathan Davies

Sam Warburton Image copyright Getty Images

Fydd Jonathan Davies a Stuart Hogg ddim yn cael chwarae yn gêm nesaf Y Llewod yn erbyn Yr Highlanders fore Mawrth wedi i'r ddau gael anafiadau pen yn y gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Y Crusaders.

Dyw Dan Biggar hefyd ddim yn ddigon iach wedi iddo fethu prawf anafiadau pen. Cafodd e ei anafu yn y gêm yn erbyn Y Blues ddydd Mercher diwethaf.

Fydd Ross Moriarty hefyd yn abesennol oherwydd problemau cefn yn dilyn y gêm yn erbyn y Barbariaid Taleithiol.

Mae newyddion gwell i Sam Warburton - fe fydd capten gêm nesaf Y Llewod yn erbyn yr Highlanders yn Dunedin.

Mae'r blaenasgellwr bellach yn holliach wedi iddo gael trafferth gyda'i bigwrn ac felly bydd e'n ymuno â James Haskell a CJ Stander yn y rheng ôl.

Sam Warburton oedd capten y gêm gyntaf y Llewod pan drechon nhw Barbariaid Taleithiol Seland Newydd o 13-7 yn Whangarei.

"Hyd yma," meddai'r prif hyfforddwr Warren Gatland, "mae pawb wedi cael chwarae ac ry'n ni fel hyfforddwyr yn falch o hynny.

"Ry'n wedi gwella ym mhob gêm - ac yn amlwg roeddem yn falch o'r llwyddiant yn erbyn Y Crusaders fore Sadwrn. Ry'n yn ymwybodol er hynny y bydd y gêm yn erbyn yr Highlanders yn dipyn o brawf ar ein gallu."

Ddydd Sadwrn enillodd y Llewod eu hail gêm o dair, a hynny yn dilyn perfformiad cadarn yn Christchurch yn erbyn y Crusaders.