Buddugoliaeth gampus i Forgannwg

Jacques Rudolph Image copyright Rick Features
Image caption Jacques Rudolph yn disgleirio i Forgannwg

Dim ond tridiau gymerodd Morgannwg i guro Caerwrangon o naw wiced.

Roedd perfformiad Michael Hogan gyda'r bêl fore Sul yn rhyfeddol - pum wiced am 38 rhediad yn unig.

Collodd Caerwrangon eu holl wicedi yn yr ail fatiad am 129 o rediadau - Lukas Carey yn cymryd tair wiced am 34 a Timm van der Guten ddwy wiced am 39 yn ychwanegol at wicedi Hogan.

16 rhediad oedd angen i Forgannwg sgorio yn yr ail fatiad i sicrhau buddugoliaeth.

Roedd yn drawsnewidiad rhyfeddol gan fod Morgannwg wedi colli chwe wiced am 58 rhediad yn eu batiad cyntaf.