Serbia 1-1 Cymru

  • 11 Mehefin 2017
rambo Image copyright AFP
Image caption Aaron Ramsey'n dathlu rhoi Cymru ar y blaen o'r smotyn

Mae Cymru wedi cael gêm gyfartal arall yn eu hymdrechion i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia - y tro hwn oddi cartref yn Serbia.

Roedd Cymru heb Gareth Bale a Neil Taylor oherwydd gwaharddiadau, ac roedd Hal Robson-Kanu wedi'i anafu.

Dewisodd Chris Coleman gadw'r un patrwm sydd wedi dod â llwyddiant iddo, gyda Sam Vokes yn dechrau yn y blaen a Daves Edwards yng nghanol cae gyda Joe Allen mewn rôl mwy ymosodol.

Jazz Richards oedd yn llenwi'r bwlch yn ylle Taylor yn y cefn, ac roedd amddiffyn Cymru'n gadarn wrth ddod o dan cryn dipyn o bwysau yn yr hanner cyntaf.

Cymru aeth ar y blaen o'r smotyn. Fe bwyntiodd y dyfarnwr at y smotyn wedi i grys Sam Vokes gael ei dynnu yn y cwrt, ac Aaron Ramsey gymrodd y cyfrifoldeb, gan sgorio gyda chic herfeiddiol i gefn y rhwyd.

Image copyright AFP
Image caption Aleksandr Mitrovic unionodd y sgôr i Serbia

Colli'r fantais

Ond fel sydd wedi digwydd mewn pum gêm yn olynol nawr, doedd Cymru ddim yn medru cadw'r fantais.

Fe ddaeth Serbia allan gan roi pwysau mawr ar Gymru ar ddechrau'r ail hanner, ond ni ddaeth y gôl tan y 73ain munud.

Fel y gwnaeth yng Nghaerdydd, Aleksandr Mitrovic gafodd y gôl i sicrhau pwynt i Serbia, ac er i Ramsey gael cyfle arall cyn y diwedd, fe orffennodd hi'n un yr un.

Yn y ddwy gêm arall yng Ngrŵp D ddydd Sul, fe gafodd Gweriniaeth Iwerddon ac Awstria gêm gyfartal 1-1, a'r un oedd y canlyniad (os nad y sgôr) wrth i Moldofa yn erbyn Georgia orffen yn 2-2.

Mae Cymru felly yn aros yn drydydd yn y tabl, pedwar pwynt y tu ôl i Serbia a Gweriniaeth Iwerddon sydd ar y brig gyda 12 pwynt, ac yn gyfartal gydag Awstria ar wyth pwynt.