Pryder am y fferm deuluol wrth i Brydain adael yr UE

Defaid

Mae arbenigwr ar fyd amaeth wedi dweud y gallai dyfodol y fferm deuluol fod yn y fantol os na fydd trefn effeithiol o gefnogaeth ariannol yn y dyfodol.

Daw cyn i waith ymchwil cael ei gomisiynu gan Brifysgol Bangor er mwyn canfod beth fydd effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ffermydd teuluoedd Cymru.

Mewn papur gwyn cyn yr etholiad roedd Llywodraeth y DU yn addo y byddai'r un lefel o gymorthdaliadau yn parhau tan 2020, ond mae'r sefyllfa ar ôl hynny yn fwy aneglur.

Mynnu na ddylai Cymru golli'r un geiniog yn sgil gadael yr UE mae Llywodraeth Cymru, gan alw ar Lywodraeth Prydain i wneud ymrwymiad tymor hir na fydd yr arian yn gostwng.

Dywedodd darlithydd rheolaeth amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, Dr Prysor Williams bod "ffermydd teuluol yn hollbwysig".

"Mewn ardaloedd megis yr ucheldir lle does 'na ddim rhyw lawer o opsiynau, mond cynhyrchu cig oen, yna mae 'na le i boeni.

"Ac mae'n rhaid i'r bobl sy'n gallu effeithio ar benderfyniadau'r dyfodol wir ystyried hyn, oherwydd 'da ni ddim isio gweld y diwydiant amaeth yn dilyn yr un trywydd a'r diwydiant glo a'r sgil effeithiau cymdeithasol a diwylliannol sydd wedi deillio o hynny."

'Her i'r dyfodol'

Ar hyn o bryd mae dros 16,000 o ffermwyr yn cael gwerth £25bn o daliadau o'r Undeb Ewropeaidd.

Ond bydd y strwythur presennol yn dod i ben wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr UE.

Image caption Mae gan Dr Prysor Williams bryderon ynglŷn â sgil effeithiau Brexit ar y byd amaeth

Wrth ddangos ei gyfrifon i Manylu mae Paul Williams yn dweud bod chwarter ei drosiant yn dod o'r taliad sylfaenol presennol.

Wrth gydnabod bod nifer o ffermwyr wedi pleidleisio dros adael yr undeb, mae'n dweud fod her fawr yn wynebu'r diwydiant i'r dyfodol.

"Mae'n mynd i gymryd yn o agos at genhedlaeth er mwyn i ni gyrraedd lle 'da ni isio bod ar ôl dod allan," meddai.

"Felly mae'r genhedlaeth sydd wrthi rŵan, gan gynnwys fy hun, yn mynd i orfod gweithio'n galed iawn i ganfod marchnadoedd newydd ac addasu ein busnesau."

Image caption Yn ôl y ffermwr Paul Williams mae'n mynd i gymryd amser i ddod o hyd i farchnadoedd newydd ar ôl gadael yr UE

Gweld cyfle mae Rhys Williams o Goleg Amaeth Glynllifon ger Caernarfon, wrth iddyn nhw addysgu pobl ifanc i weithio mewn byd ffermio heb gymorthdaliadau.

Dywedodd: "Mi ddoith 'na amser rŵan pan fydd pob busnes yn gorfod edrych yn fanwl iawn ar sut maen nhw'n perfformio.

"Bydd yn rhaid i ffermydd sy'n ddibynnol ar gymorthdaliadau wneud penderfyniadau mawr.

"Ydi, mae'n mynd i fod yn fwy heriol a bydd yn rhaid i bobl edrych ar eu systemau ond dwi'n meddwl fod hynny'n mynd i roi cyfleoedd - a chyfleoedd cyffrous iawn i bobl ifanc."

Image copyright Getty Images

£264m oedd gwerth allforion o fwyd a diod o Gymru yn 2015, gyda 90%, gan gynnwys cig oen, yn cael ei werthu i wledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Sicrhau mynediad di-doll i'r farchnad Ewropeaidd honno ydy nod yr undebau amaeth.

Maen nhw am weld hwn yn un o'r prif bynciau trafod yn y cyfarfodydd ar y telerau gadael sydd i fod i ddechrau'r wythnos nesaf.

'Diwydiant fwy hyblyg'

Ond di-hyder ydy Dr Williams o Brifysgol Bangor: "Dwi'n berson sy'n reddfol yn edrych ar wydr hanner llawn, ond dwi ddim â'r un hyder am sgil effeithiau Brexit ar y diwydiant amaeth.

"Mae'n siŵr y bydd na gyfleoedd i bobl ifanc a bydd y diwydiant yn fwy hyblyg - ac mi gawn ni bolisïau sy'n fwy perthnasol i Gymru.

"Ond mae mynediad i'r farchnad, dim bwys be da chi yn ei werthu, boed yn gynnyrch anifeiliaid neu geir yn hollbwysig.

"Ac mae'n haws allforio i Ffrainc na China, degau o filoedd o filltiroedd i ffwrdd."

Manylu ar Radio Cymru dydd Iau 15 Mehefin am 12:30 ac ail ddarllediad dydd Sul 18 Mehefin 18 am 16:00. Mae modd gwrando hefyd ar yr iPlayer.

Straeon perthnasol